
hefyd:Ymrwymiad ac Arweinyddiaeth
Partneriaethau a Chymuned
ADCDF ar draws y cwricwlwm
Yn ‘Manteisio i’r eithaf ar ddysgu’ (APADGOS 2008) nodir amcanion allweddol cwricwlwm diwygiedig Cymru. Yn benodol, nod y cwricwlwm yw:
- bod yn berthnasol i’r unfed ganrif ar hugain
- cefnogi polisi’r Llywodraeth sy’n cynnwys addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang (ADCDF)
Offeryn cynllunio cwricwlwm ar gyfer yr unigolion sy’n gyfrifol am ddull ysgol gyfan tuag at ADCDF yw ‘ADCDF ar draws y cwricwlwm’. Mae’r ddogfen yn amlygu datganiadau neu adrannau o raglenni astudio pynciau’r Cwricwlwm Cenedlaethol yn ystod cyfnod Allweddol 2 sy’n darparu cyfleoedd ar gyfer datblygu ADCDF. Mae hefyd yn nodi cyfleoedd ar gyfer datblygu ADCDF o fewn fframweithiau diwygiedig ar gyfer Addysg Bersonol a Chymdeithasol ac Addysg Grefyddol. Man cychwyn ar gyfer trafodaeth wybodus yw’r ddogfen ac nid yw wedi bwriadu i fod yn rhagnodol ac anhyblyg. Bydd pob ysgol yn datblygu ei rhaglen ADCDF wedi’i chynllunio ei hunain i ddiwallu anghenion ei dysgwyr orau.
Mae ‘ADCDF ar draws y cwricwlwm’ hefyd yn nodi cysylltiadau posibl gyda saith thema ADCDF fel y’u nodir yn y ddogfen ‘Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang; Dealltwriaeth Gyffredin ar gyfer Ysgolion’ (065/2008 Llywodraeth Cynulliad Cymru, Gorffennaf 2008). Dyma’r saith thema cydgysylltiedig:
- Cyfoeth a thlodi
- Hunaniaeth a diwylliant
- Dewisiadau a phenderfyniadau
- Iechyd
- Newid yn yr hinsawdd
- Defnyddio a gwastraffu
- Yr amgylchedd naturiol
Mapiau Cwricwlwm