
Ar ddydd Mawrth 10 Chwefror 2009, cynhaliwyd Diwrnod Ewropeaidd Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel y Comisiwn Ewropeaidd am y 6ed tro lle'r oedd Cyngor Ewrop yn tynnu sylw at ei waith gydag aelod-wladwriaethau a gwledydd y tu allan i Ewrop yn taclo pob mathau o ffurfiau ar gamddefnyddio’r Rhyngrwyd a’i wneud yn fwy diogel i blant ei defnyddio.
Diwrnod Ewropeaidd Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel - Fideo
Fel aelod o Gyngor y DU ar Ddiogelwch Plant ar y Rhyngrwyd, trefnodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ddigwyddiad ar y cyd â Phafiliwn Ieuenctid Butetown a WISE KIDS lle'r oedd 11 o bobl ifanc yn cael y cyfle i rannu eu harferion yn defnyddio’r Rhyngrwyd a mynegi eu barn hwy ar ddiogelwch ar y Rhyngrwyd i Jane Hutt AC, y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes.
Bu’r plant ifanc yn cymryd rhan mewn gweithdy hyfforddiant undydd yn gwneud gwaith rhagbaratoadol gyda WISE KIDS, yn dysgu am dechnolegau newydd ar y Rhyngrwyd ac yn archwilio materion yn ymwneud â Diogelwch ar y Rhyngrwyd. Buont yn defnyddio adnoddau cyfryngau digidol (lluniau, fideos, sain a meddalwedd) i recordio eu syniadau a’u hargraffiadau hwy. Ar gyfer Diwrnod Ewropeaidd Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel aethant ati i baratoi cyflwyniad gan dynnu sylw at yr elfennau cadarnhaol a negyddol o ddefnyddio’r Rhyngrwyd ar gyfer pobl ifanc; aeth rhai ohonynt ati i gyfansoddi cân ‘rap’ yn cynnwys negeseuon ynghylch defnyddio’r Rhyngrwyd yn ddiogel i bobl ifanc (a fideo i gyd-fynd a’r gân); hefyd aethant ati i baratoi crynodeb o’r prif bwyntiau i’r Gweinidog dros Addysg ar sut y maen nhw’n credu y gellir helpu pobl ifanc i ddefnyddio ac i ymgysylltu â’r Rhyngrwyd mewn ffyrdd sy’n ystyrlon ac yn berthnasol i’w hanghenion ac sy’n eu grymuso ac yn eu hannog i wneud penderfyniadau deallus.
Dyma’r prif bwyntiau a gododd o’r diwrnod:
Beth yw’r cam nesaf?
Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru’n adlewyrchu’r farn a fynegwyd gan y cynrychiolwyr yn nigwyddiad Diwrnod Ewropeaidd Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel trwy ei gynnwys yn ei gyfraniad at y strategaeth sy’n cael ei datblygu gan Gyngor y DU ar Ddiogelwch Plant ar y Rhyngrwyd a sefydlwyd gan y Prif Weinidog yn 2008.
Ar hyn o bryd, mae Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus yng Nghymru yn adolygu ymarferoldeb datblygu gwasanaethau band eang i ysgolion allai gynnwys gwahanol lefelau o ffiltro ar lefel ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd.
Bydd tîm Strategaeth TGCh APADGOS yn trafod y canlynol gydag awdurdodau lleol ac eraill ar hyd a lled Cymru:
Llawer o ddiolch i bawb a fu’n cymryd rhan yn y digwyddiad rhagorol hwn!