eDdiogelwch yng Nghymru
Bwriedir y dudalen we hon i ddarparu cyngor a gwybodaeth ar eDdiogelwch i ymarferwyr yng Nghymru.
Mae’r defnydd o TGCh yn gwneud cyfraniad grymus at ddysgu ac addysgu ledled Cymru. Tra’n cydnabod buddiannau technoleg, mae hefyd yn bwysig bod yn ymwybodol o’r peryglon ac yn arbennig i sicrhau fod plant a phobl ifanc yn gwybod sut i ddefnyddio’r Rhyngrwyd yn ddiogel ac yn gyfrifol. Mae gwe ddiogelwch - neu eDdiogelwch - bellach yn elfen ofynnol o’r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru i ddysgwyr 5 oed hyd 14 oed. Hefyd mae angen i ymarferwyr fod yn ymwybodol o sut mae materion e-ddiogelwch yn effeithio arnynt yng nghwrs eu gwaith.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn aelod o Gyngor y DU ar Ddiogelwch Rhyngrwyd i Blant.
Gwybodaeth
eDdiogelwch yn Fframwaith Hunan Adolygu TGCh Becta
Cynhwysodd adroddiad Dr Tanya Byron ar Ddiogelu Plant mewn Oes Ddigidol (Mawrth 2008) argymhelliad: "ymhob ysgol, dylid cymryd camau ar lefel ysgol gyfan i sicrhau fod e-ddiogelwch yn cael ei brif-ffrydio drwy addysgu’r ysgol a dysgu mewn gweithrediadau eraill. Yn arbennig ... dylai’r Llywodraeth annog ysgolion i ddefnyddio asesiad fframwaith hunan adolygu TGCh Becta i yrru ymlaen welliant parhaus yn nefnydd ysgolion o TGCh, yn cynnwys ystyriaeth i e-ddiogelwch."
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn darparu cymorth grant drwy’r Gronfa Ysgolion Gwell i awdurdodau lleol i gynorthwyo eu hysgolion i ddefnyddio Fframwaith Hunan Adolygu TGCh Becta.
Gwybodaeth bellach ar y Fframwaith Hunan Adolygu.
Fframwaith Hunanadolygu TGCh a Marc TGCh
Cymryd Gofal Arlein: Canllaw Ar Sut i Wneud y Defnydd Cywir o'r Rhyngrwyd a Ffonau Symudol
Llythrennedd Digidol ac eDdiogelwch - Canllaw i Athrawon