Llifogydd yng Nghymru
Llifogydd yng Nghymru

Llifogydd yng Nghymru

Mae rhagor na 5 miliwn o bobl Cymru a Lloegr yn byw ac yn gweithio ym mannau sydd ym mherygl llifogydd môr neu afon. Mae’r bygythiad yn fwy mewn rhai lleoedd, felly efallai y gorlifir hwy’n amlach na lleoedd eraill. Efallai y bydd newid yn yr hinsawdd yn peri llifogydd amlach yn y dyfodol.  

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn un o amryw gyrff sy’n gweithio er mwyn ein cadw’ ni’n ddiogel. Yn ystod llifogydd yng Nghymru, bydd y gwasanaethau argyfwng (heddlu, tân ac ambiwlans) yn gweithio ag awdurdodau lleol ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru er mwyn sicrhau fod cymunedau cyn ddiogeled ag y bo modd.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn cynnig gwasanaeth arbennig sy’n rhybuddio pobl mewn da bryd ynghylch llifogydd posibl. “Rhybuddion Floodline Uniongyrchol” yw enw’r gwasanaeth hwn. Os yw’r gwasanaeth arbennig hwn ar gael yng nghyffiniau’ch cartref neu’ch ysgol chi, gallwch ofyn am dderbyn rhybuddion llifogydd trwy ffôn, e-bost neu destun. Ymwelwch â gwefan Asiantaeth yr Amgylchedd yma neu galwch Floodline ar 0845 988 1188 a rhowch eich cyfeiriad a’ch cod post chi.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru hefyd yn gwneud mapiau dangos ple sydd dan fygythiad llifogydd. Mae’r mapiau hyn ar gael ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru. Cliciwch yma er mwyn canfod a allasai llifogydd ddigwydd yn eich ardal chi. Ydych chi’n byw mewn ardal o’r fath, neu’n mynd i ysgol yn un?

Nid yw mesur newidiadau lefelau dwr afonydd ond yn un agwedd ar waith Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru. Mae gwybodaeth lefelau afonydd ar y rhyngrwyd, bellach, fel y gall pobl weld lefel afon AR HYN O BRYD. Cliciwch yma er mwyn gweld lefelau afonydd yn eich ymyl chi.

Cewch ragor am leoedd y gallasai llifydd eu taro, beth i’w wneud yn ystod llifogydd, lefelau presennol afonydd yn eich ymyl chi, a llawer rhagor yn www.environment-agency.gov.uk/flood