2. Llifogydd Afonydd yng Nghymru
Mae gan Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru gyfrif manwl o Lifogydd yng Nghymru, Hydref 2000. Mae’r safle yn manylu ar achosion y digwyddiadau, eu heffeithiau ledled Cymru, adolygiad o strategaeth Asiantaeth yr Amgylchedd yn y dyfodol ar gyfer rhagweld llifogydd, rhybuddion llifogydd ac ymateb iddynt mewn argyfwng.
Astudiaeth achos
Mae rhaglen Effaith Hinsawdd y Deyrnas Unedig yn comisiynu nifer o adroddiadau. Yn 2004 roedd adroddiad ‘Pennu cost effeithiau Newid Hinsawdd’ gan Metroeconomica Cyf., yn cynnwys pedair astudiaeth achos yn ei atodiad. Mae tudalennau 67-75 yn trafod effeithiau theoretig newid hinsawdd ar lifogydd Afon Hafren.
Gellir cael gwybodaeth gefndirol am lifogydd Afon Hafren a gweithgaredd perthnasol i lifogydd o gwmpas yr Amwythig yn adran CA3/4.
|