UG/Uwch Adref > Beth yw effeithiau newid hinsawdd yng Nghymru?  > Tirlithriadau
4. Tirlithriadau

Mae www.bgs.ac.uk/britainbeneath/haz_landslides.html yn safle rhyngweithiol Arolwg Daearegol Prydain sy’n defnyddio Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol, GIS, i archwilio mapiau digidol.

  • Mae’r cyswllt a roddir yn eich cymryd yn syth i adran peryglon-tirlithriadau.
  • Drwy’r wefan GIS cewch wybodaeth am dirlithriadau yn y DU,
  • Mae ‘Zoom’ yn rhoi map coropleth o botensial tirlithriadau gwahanol drwy'r ardal a ddewiswyd e.e. Gn Cymru
  • Gellir dewis ail fap o nifer o newidynnau daearegol: dwr daear, ansawdd tir, peryglon eraill, i’w osod ochr yn ochr neu ei gyfuno â’r map tirlithriadau o Gymru.
  • Felly gellir adeiladu GIS o dirlithriadau, achosion, amodau daear a pheryglon eraill yn eich ardal chi o Gymru.
  • Ceir cyfleuster ‘Sut i ddefnyddio gwefan GIS’.

Astudiaeth achos

Cymoedd y Rhondda: defnyddio GIS i ddarlunio amrywiaeth o faterion daearegol mewn ardal a brofodd fwyngloddio dwys. P.J.Brabham tud 222-233,Urban Geology in Wales I, 2004,  Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Hefyd Urban Geology in Wales II, 2005.

Mae’r erthyglau hyn yn defnyddio ffotograffau – o bwyntiau gwylio uchel ac o’r awyr, a modelau tirlun 3D er mwyn gwella’r drafodaeth ar dirlithriadau yn y Rhondda.

Gellir cael manylion o dirlithriadau yng Nghymru yn

Nichol, D., Bassett, M.G., & Deisler, V.K. [Golygyddion] 2002

Landslides and landslide management in N Wales,

Cyfres Ddaearegol rhif 22 Amgueddfa Genedlaethol Cymru Caerdydd

Siddle, H.J., Bromhead, E.N., & Bassett, M.G., [Golygyddion]  2000

Landslides and landslide management in S Wales,

Cyfres Ddaearegol rhif 18 Amgueddfa Genedlaethol Cymru Caerdydd



            Adrannau perthnasol: