UG/Uwch Adref > Beth yw effeithiau newid hinsawdd yng Nghymru?  > Llifogydd Arfordirol yng Nghymru
1. Llifogydd Arfordirol yng Nghymru

Rhagwelir codiad yn lefel Môr rhwng 11cm [allyriannau isel] i 71 cm [allyriannau uchel] ar gyfer 2080au i Gymru


Mae’r pecyn ysgol hwn yn cynnwys trafodaeth ar i ba raddau y mae mynyddoedd iâ mawr sy’n ymrannu o iâ Antarctica yn cyfrannu at godiadau yn lefel môr ac felly gynyddu’r risg o lifogydd.

Rheolaeth Ymylon Traethau yn y dyfodol

Mae cynlluniau datblygu ymylon traethau yn strategaethau a gytunwyd gan drawstoriad o rai sy’n penderfynu ac sy’n gysylltiedig â phrosesau arfordirol, twristiaeth, cadwraeth, datblygiad economaidd. Ceir cyfres o’r grwpiau arfordirol hyn yng Nghymru. Mae gan bob un gyfrifoldeb am fae rhwng dau benrhyn e.e. Bae Ceredigion rhwng Penrhyn Santes Ann, Sir Benfro a Swnt Enlli, Gwynedd.

Gwefan un o SDP Cymru yw http://www.cardiganbaysac.org.uk

Mae gan Fae Ceredigion nifer o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) ar gyfer gwahanol rywogaethau morol yn cynnwys y dolffiniaid trwyndwl. Bydd angen i bob datblygiad yn y dyfodol sy’n ymwneud ag adeiladu amddiffynfeydd morol sicrhau bod yr amgylchedd yn parhau i fod yn addas ar gyfer y dolffin.

Gall y safle hwn roi mynediad i Gynlluniau Datblygu Eraill ac i Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yng Nghymru.


            Adrannau perthnasol: