LLE YN Y CWRICWLWM Y MAE MODD IMI ADDYSGU AM NEWID HINSAWDD YNG NGHYMRU?
Mae’ rhan yma o’r wefan yn dangos lle gall astudio ‘Newid Hinsawdd yng Nghymru’ gyfrannu at y Cwricwlwm yng Nghymru.
Mae pob tudalen yn cyfeirio at Gyfnod Allweddol gwahanol.
Blynyddoedd Cynnar a CA1 CA2 CA3 CA4 UG / U2
Ar bob tudalen ceir tabl yn cynnwys datganiadau cwricwlwm perthnasol gyda chysylltau at weithgareddau ar y wefan hon:
- Rhaglenni Astudio pynciau penodol yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru
- Addysg Bersonol a Chymdeithasol. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydnabod swyddogaeth ABaCh o ran ‘galluogi disgyblion i fod yn ddinasyddion gweithredol, gwybodus a chyfrifol… sydd yn barod ar gyfer … yr her o fod yn ddinasyddion yng Nghymru.’
Yn ychwanegol i’r cwricwlwm gorfodol mae’r tablau yn arddangos sut y gall ‘Newid Hinsawdd yng Nghymru’ ateb gofynion y themâu traws cwricwlaidd sef:
- Gall Cwricwlwm Cymreig ‘helpu disgyblion i ddeall a dathlu ansawdd penodol byw a dysgu yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain ac i nodi eu hymdeimlad nhw eu hunain o Gymreictod a gwir deimlo eu bod yn perthyn i’w cymuned leol a’u gwlad. Gall hefyd helpu’r disgyblion i ddatblygu eu dealltwriaeth o Gymru gydwladol sy’n edrych allan i’r byd gan hybu dinasyddiaeth byd eang ac yn ymboeni am ddatblygiad cynaliadwy.
- Addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy sy’n ‘galluogi pobl i ddatblygu’r wybodaeth, gwerthoedd a’r sgiliau igymryd rhan mewn penderfyniadau ynglyn â’r ffordd yr ydym yn gwneud pethau yn unigol ac ar y cyd, yn lleol ac yn fyd-eang, a fydd yn gwella ansawdd bywyd yn awr heb ddifrodi’r blaned i’r dyfodol.’
- Sgiliau Allweddol - Cyfathrebu, Cymhwyso rhif, TG, Datrys Problemau, Gwella’ch dysgu a’ch perfformiad eich hun, Gweithio gydag eraill. Bydd defnydd o’r wefan yn gwella sgiliau TG. Gellir defnyddio'r safwe mewn sawl modd i ddatblygu Sgiliau Allweddol eraill. Felly nid yw’r Sgiliau Allweddol unigol yn cael eu rhestru.
|
|