Blynyddoedd Cynnar a CA1
GWYBODAETH A DEALLTWRIAETH O'R BYD
Datganiad Ffocws Mewn perthynas ag agweddau eraill ar wybodaeth a dealltwriaeth o'r byd, dylent gael brofiadau sy'n eu cynorthwyo i fod yn fwy chwilfrydig am y byd o'u cwmpas a dechrau ei ddeall. Dylent ddysgu parchu credoau pobl eraill, dangos gofal, cyfrifoldeb, pryder a pharch at bob peth byw a'r amgylchedd.
Cyd-destun ar gyfer Dysgu Dylid annog plant i gyfathrebu a mynegi eu dychymyg a'u creadigrwydd trwy ddefnyddio ffynonellau TGCh, lluniau, darluniau, mapiau a lluniadau.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
Y Byd Byw
Dylai bodau dynol, anifeiliaid a phlanhigion yn amgylchedd agos y plant ddarparu'r man cychwyn. Dylai profiadau wedi'u cynllunio ddarparu cyfleoedd i blant ddatblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth trwy archwilio ac ymchwilio'r canlynol:
- yr effeithiau y mae'r gwahanol dymhorau yn eu cael ar rai anifeiliaid a phlanhigion
Lleoedd a Phobl
Gwerthfawrogir cartref y plant a'r sefyllfa/ysgol a dylid ei ddefnyddio fel y man cychwyn ar gyfer datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o leoedd. Trwy weithgareddau wedi'u cynllunio, archwilio ac ymholi dan do ac yn yr awyr agored, dylai plant gael cyfleoedd i ddatblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o bobl, adeiladau, y tywydd a'r tirlun o fewn eu
- ddefnyddio a dod yn gyfarwydd â thermau daearyddol
- adnabod nodweddion naturiol (e.e. afonydd) a nodweddion dynol (e.e. ffyrdd)
- gwneud a defnyddio cynlluniau a mapiau syml
- dechrau defnyddio atlasau a globau syml
- adnabod sut mae lleoedd fel tref/glan môr/cefn gwlad yn cymharu ac yn cyferbynnu
- arsylwi ar dywydd gwahanol a gweld sut mae'r tywydd yn eu hardal leol yn cymharu ag ardaloedd eraill
- datblygu ymwybyddiaeth o sut mae ardal leol yn newid ac effaith gweithredoedd pobl ar yr amgylchedd.
Y Byd Ffisegol
Trwy weithgareddau wedi'u cynllunio, archwilio ac ymchwilio dylai plant ddysgu am rymoedd a symudiad, goleuni, sain a thrydan, yn y cyd-destunau canlynol er mwyn cynnig modd iddynt:
- ddechrau deall bod llawer o offer bob dydd yn defnyddio trydan a dylid bod yn ofalus wrth eu defnyddio
- deall bod goleuni yn dod o amrywiaeth o ffynonellau, megis yr Haul a bod tywyllwch yn golygu bod heb oleuni
|