Oed 11 - 18 > Beth a fedrwn ei wneud i leihau newid hinsawdd? > Egni adnewyddadwy yng Nghymru > Beth yw ffermydd gwynt? > Lleoliad ffermydd gwynt Cymreig
LLEOLIAD FFERMYDD GWYNT CYMREIG

Ffermydd gwynt yn y DU 2005           
ATRAETH     ALLDRAETH  
Cymru 21   Cymru 1
Lloegr 46   Lloegr 2
Yr Alban 29      
G Iwerddon 11      
                    Cyfanswm 107                    Cyfanswm 3
Ffermydd gwynt sydd yn cael eu hadeiladu        
Cymru 4      
Lloegr 6   Lloegr 2
Yr Alban 8      
G Iwerddon 1      
                    Cyfanswm 19      
Ffermydd gwynt sy'n cael eu cynllunio     Ffermydd gwynt sy'n cael eu cynllunio  
Cymru 21   Cymru 2
Lloegr 74   Lloegr 8
Yr Alban 96   Yr Alban 2
G Iwerddon 18      
                    Cyfanswm 209                       Cyfanswm 12





Trïwch hyn!
  • Ewch i wefan http://www.bwea.com/map/uk.html a chliciwch ar y map rhyngweithiol. Mae hwn yn dangos dosbarthiad yr holl ffermydd gwynt yn y DU. Cliciwch ar eich fferm wynt agosaf i gael ffotograff a manylion.
  • Defnyddiwch y tabl i ddisgrifio'r gyfran o ffermydd gwynt y DU a geir yng Nghymru.
Pam y mae Cymru yn addas ar gyfer ffermydd gwynt?

  • Mae ar lwybr prifwyntoedd y de orllewin
  • Mae yma lawer o dir uchel sydd â
    • gwyntoedd cryfion
    • ardaloedd prin eu poblogaeth, felly effeithir ar lai o bobl gan lygredd sŵn a llygredd gweledol
    • ardaloedd nad ydynt mewn Parciau Cenedlaethol lle mae'n rhaid gwarchod harddwch y golygfeydd
    • ardaloedd a ddefnyddir ar gyfer ffermio defaid lle na fuasai ffermydd gwynt yn ymyrryd ar yr economi
    • tir heb fod yn ddrud
  • Mae gan Gymru forlin hir a'r potensial i ddatblygu ffermydd gwynt alltraeth

            Adrannau perthnasol: