Oed 11 - 18 > Beth a fedrwn ei wneud i leihau newid hinsawdd? > Egni adnewyddadwy yng Nghymru > Beth yw ffermydd gwynt? > Eich barn am felinau gwynt
BARN AR FFERMYDD GWYNT YNG NGHYMRU

Gren cartoon of windfarms

Wedi ei atgynhyrchu drwy ganiatâd GREN (www.gren-art.co.uk)

'Agweddau ar newid hinsawdd a ffermydd gwynt yng Nghymru'.

Casgliadau holiadur gan Gymdeithas y Defnyddwyr yng Nghymru a Chyfeillion y Ddaear, Cymru, 2004

www.wales-consumer.org.uk

Maint y gefnogaeth

  • 23% yn hynod gefnogol i ffermydd gwynt
  • 45% yn cefnogi ffermydd gwynt, 55% yn cefnogi ffermydd gwynt alltraeth,
  • 14% yn pryderu am atraeth, 10% yn bryderus am alltraeth
Gwahaniaethau rhanbarthol

  • Pobl DOn Cymru oedd y rhai lleiaf cefnogol
  • Y rhai mwyaf cefnogol yng Ngogledd Cymru
Gwahaniaethau grŵp oedran

  • Myfyrwyr fwy o blaid ffermydd gwynt atraeth na rhai alltraeth
  • Grŵp 45-54 oed oedd y rhai mwyaf cefnogol i egni gwynt
  • Y rhai dros 55 oedd y grŵp mwyaf yn erbyn ffermydd gwynt
Trïwch hyn!
1. Lluniwch holiadur i ddarganfod beth yw barn pobl yn eich ardal chi am ffermydd gwynt. Cofiwch y bydd yn haws dadansoddi'r wybodaeth os gofynnwch gyfres o gwestiynau caeedig - sef rhai sy'n cael atebion ie/na neu atebion graddedig e.e. 1 i 5. Sut y byddwch yn penderfynu ar y sampl o bobl i'w holi?


2. Edrychwch ar fideo sain BBC ar " Fferm wynt fwyaf pwerus y DU yn agor". Mae'r fferm wynt £50 hon yng nghanolbarth Cymru ger Aberystwyth.

Mae'r fideo yn rhoi barnau gwahanol ar ffermydd gwynt


3. Ymchwiliwch eitemau newyddion diweddar eraill ar y we am ffermydd gwynt yng Nghymru. Dewiswch un ardal yn y newyddion ac yna mewn tabl gyda dwy golofn o dan y penawdau O BLAID ac YN ERBYN rhowch grynodeb o farnau pobl ar un cynllun fferm wynt arfaethedig yng Nghymru.


4. Beth yw eich barn chi ar felinau gwynt? Ysgrifennwch baragraff ar y dadleuon o blaid, a pharagraff ar y dadleuon yn erbyn ac yna un paragraff terfynol yn rhoi eich barn chi, gan fynegi pam y daethoch i'r penderfyniad hwn.


            Adrannau perthnasol: