Oed 11 - 18 > Beth a fedrwn ei wneud i leihau newid hinsawdd? > Egni adnewyddadwy yng Nghymru > Beth yw ffermydd gwynt?
FFERMYDD GWYNT ATRAETH

Beth yw ffermydd gwynt?


wind farm - Anglesey
Mynydd Parys Ynys Môn
© Photolibrary Wales

Trïwch hyn!
Ewch at Gymdeithas Brydeinig Egni Gwynt er mwyn cael animeiddiad sy'n dangos sut y mae ffermydd gwynt yn gweithio
Ffeithiau:
  • Mae gan dyrbinau gwynt modern lafnau rotor gwydr ffibr hyd at 65 metr o ddiamedr.
  • Mae'r tyrau dur tiwbaidd llwyd yn 25 i 80 metr o uchder.
  • Mae'r rhan fwyaf o'r tyrbinau â thair llafn yn wynebu'r gwynt; y gwynt sy'n troi'r llafnau, ac mae hyn yn troelli'r siafft, sydd wedi ei gysylltu i eneradur lle cynhyrchir y trydan.
  • Mae tyrbinau gwynt yn gweithredu mewn cyflymder gwynt o 4 i 5 medr yr eiliad (tua 10 milltir yr awr). Mae eu cynnyrch pŵer ar ei uchaf ar 15 metr yr eiliad,sef tua 33 milltir yr awr). Mewn gwyntoedd grym tymestl, (25 metr/eiliad, 50+ milltir /awr) mae'r tyrbinau yn peidio â chynhyrchu.
  • Mae tyrbin gwynt yn para tua 20-25 mlynedd.
  • Mae fferm wynt nodweddiadol gydag 20 tyrbin angen hyd at 1 kilometr sgwâr, yn defnyddio 1% o'r tir. Gellir defnyddio'r tir sy'n weddill ar gyfer pwrpasau eraill, e.e. ffermio neu fel cynefin naturiol.
  • Mae un tyrbin gwynt 1.8MW yn cynhyrchu digon o drydan i gyflenwi anghenion bron 1,000 o gartrefi bob blwyddyn.
  • Mae egni gwynt yn un o'r technolegau egni adnewyddadwy rhataf. Mae egni a gynhyrchir gan fferm wynt sydd mewn lleoliad da yn costio 3-4 ceiniog yr uned, [glo newydd (2.5-4.5c), niwclear newydd (4-7c)]. Mae trydan o ffermydd gwynt o faint llai yn ddrutach.  

            Adrannau perthnasol: