Oed 11 - 18 > Beth a fedrwn ei wneud i leihau newid hinsawdd? > Egni adnewyddadwy yng Nghymru > Ffynonellau eraill o egni adnewyddadwy > Biomas
BIOMAS

'Tanwydd sydd yn seiliedig ar ddefnydd organig' yw Biomas.

  • Gweddillion Coedwigaeth/Coetir - pren, sy'n dod o gynaeafu masnachol neu deneuo coedwigoedd. Gellir gadael 70% o'r pren ar lawr y goedwig yn dilyn cwympo'r coed.
  • Cnydau egni - cnydau a dyfir yn benodol ar gyfer cynhyrchu egni. Helyg yw'r rhai mwyaf addas yng Nghymru
  • Gwastraff gweithgynhyrchu pren - gwastraff pren heb ei drin e.e. o ffatri ddodrefn/celfi, pacedu pren, adeiladu a chwalu.  
Gellir defnyddio'r pren ar ffurf boncyffion neu sglodion pren neu ei brosesu yn bio-olew eilaidd neu yn danwyddau bio-nwyon.

Yn 2005 lansiodd y Comisiwn Coedwigaeth Gynllun Biomas Egni Coed gydag arian Amcan 1[UE].

Gweithgynhyrchwyr e.e. Welsh Biofuels Ltd, Pen-y-bont ar Ogwr, yn defnyddio pelenni pren gan y Comisiwn Coedwigaeth a ffynonellau eraill. Prosiectau yn cynnwys gwresogi Canolfan Hamdden a phwll nofio yn Llandysul.

O fewn y gwaith - cliciwch ar y delweddau i gael disgrifiad o'r broses.


http://www.welsh-biofuels.co.uk/insidetheplant.htm

Gellir defnyddio egni o nwyon biomas i gynhyrchu gwres a/neu drydan



            Adrannau perthnasol: