CYNLLUNIAU STORFEYDD PWMP
Mae’r dwr yn cael ei bwmpio i’r gronfa uchaf pan y ceir digonedd o drydan (trydan rhad) a’i ollwng yn ôl i’r gronfa isaf yn ystod cyfnodau o alw mawr (trydan drud).
Maent yn gallu cyflenwi trydan ar unwaith – mor wahanol i bwerdai sy’n defnyddio glo.
Ceir dau gynllun mawr o storfeydd pwmp yng Ngogledd Cymru, Ffestiniog a Dinorwig.
PWERDY FFESTINIOG
- Pwerdy Ffestiniog oedd y pwerdy storfa bwmp o bwys cyntaf yn y DU [1963]
- Gall ei bedair uned gynhyrchu gyflenwi holl ofynion pwer Gogledd Cymru am nifer o oriau.

- Mae’r dŵr yn cael ei storio yn Llyn Stwlan - cronfa uchaf cynllun Ffestiniog.
- Agorir sgriniau mawr yn y tyrrau mewnlif i gychwyn y llif pwysedd uchel.
- Bydd 27 metr ciwbig o ddŵr bob eiliad yn rhuthro trwy'r ddwy siafft pwysedd uchel. (sydd yn mesur 200 metr o hyd), sydd wedi eu cysylltu i bedwar twnnel concrid.
- Mae pibelli “penstocks” dur yn cyfeirio’r dŵr i’r pwerdy trwy bibelli mewnfa a falfiau i gychwyn generadu.
- I gwblhau'r cylch cesglir y dwr yn Nhan y Grisiau a’i bwmpio yn ôl i Lyn Stwlan, yn ystod y nos fel arfer .
PWERDY DINORWIG

Dinorwig yw’r cynllun mwyaf o’r math yma yn Ewrop.
- Yn 1984 adeiladwyd 6km o dwneli tanddaearol yng nghronbil Mynydd Elidir gan ddefnyddio miliwn tunnell o goncrid, 200,000 tunnell o siment a 4,500 tunnell o ddur.
- Mae’r chwe uned generadu bwerus yn gorwedd yn y ceudwll mwyaf yn Ewrop a adeiladwyd gan ddyn.
- Gan ddefnyddio trydan rhad allfrig mae’r chwe uned yn newid i bwmpio'r dŵr o’r gronfa isaf yn ôl i Farchlyn Mawr.
- Gall bympiau/tyrbinau Dinorwig gyrraedd y lefel generadu uchaf mewn 16 eiliad e.e. er mwyn gallu dygymod a galw sydyn am drydan wrth i bawb wneud paned o de ar ddiwedd rhaglen deledu boblogaidd.
|
|