Oed 11 - 18 > Beth a fedrwn ei wneud i leihau newid hinsawdd? > Lleihau ein hangen am egni > Mewn cludiant > Materion Cludiant
MATERION CLUDIANT

Ffeithiau:
CYMRU YN AMLWG YN BRIFDDINAS CEIR EWROP o Western Mail Mehefin 2004

  • Ffyrdd Cymru 8,956 cerbyd y km.
  • Ffyrdd Prydain 8,504 cerbyd y km.
  • Cynyddodd trafnidiaeth Cymru 4% 2001-2002
  • Cynyddodd trafnidiaeth Prydain 2.5% 2001-2002
  • Y cynnydd mwyaf
    • Ynys Môn 41.4%(cynyddu mewn 6 blwyddyn i 2002, yn dilyn agor ffordd gyflym A55 i Gaergybi)
    • Sir Fynwy 31.4%
    • Pen-y-bont ar Ogwr 16.2%, Abertawe 15.8%,Casnewydd 13.1%, Castell-nedd Port Talbot 12 % (Mae'r problemau yn arbennig o ddifrifol ar goridor yr M4 yn Ne Cymru.)
  • 74% o gartrefi Cymreig yn berchen car
  • 73% o gartrefi Seisnig yn berchen car
  • 66% o gartrefi Albanaidd yn berchen car
  • Cynyddodd damweiniau ffordd yng Nghymru 3.5% yn 2002 [gostwng eto yn 2004]
  • Gostyngodd damweiniau ffyrdd Prydain 6.4%

Barn am Gludiant

'Dim ond megis maestrefi Caerdydd yw stadau tai newydd Pen-y-bont ar Ogwr'


'mae teithiau ysgol yn effeithio ar gludiant, gan fod mwy o ddewis i ddisgyblion allu mynd i ba bynnag ysgol y dymunent mae mwy o geir ar y ffyrdd ar oriau brig'.

Yr Athro Garel Rhys.

'Mae costau cludiant cyhoeddus yng Nghymru yn dal i godi tra mae cost moduro wedi aros yn sefydlog'


'Nid yw cynlluniau megis agoriad gwasanaeth trenau Bro Morgannwg, a ailgyhoeddwyd gan y Cynulliad Cymreig yr wythnos hon yn ddim mwy na chrafu'r wyneb'


Gwybodaeth ar faterion cludiant

Defnyddio Cludiant Cyhoeddus yng Nghymru 1999-2005

  1999-00 2000-01 2001-02 2002-03 2003-04 2004-05
Teithiau teithwyr y gwasanaeth bws lleol (miliynau) 114 116 104 110 111 113
Teithiau teithwyr rheilffordd (miliynau) 16.6 17.0 18.1 18.7 19.5 ~
Teithwyr yn defnyddio Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd (miliynau) 1.3 1.5 1.5 1.4 1.9 ~

Pwrpas a math y teithio yng Nghymru [%]

                     

Cymudo
a busnes

Addysg a
gwasanaeth
addysg

Siopa

Busnes personol
arall

Ymweld â ffrindiau

Hamdden

   Y cyfanl
1991-3                
Car
Cerdded
Arall

90
1
9

41
7
52

82
4
14

88
2
12

86
2
12

79
3

83
2
14

2002-3                
Car
Cerdded
Arall

85
1
15

50
6
44

89
2
9

93
2
5

87
2
11

78
3
18

84
2
14

Ffynhonnell: 'Ystadegau Cludiant Cymreig' o Lywodraeth Cynulliad Cymru


Dull teithio i'r ysgol a chyfartaledd hyd daith plant 5 -16ml oed yng Nghymru



  1989-1993 1993-1997 1997-2001 2002-2003
Car

22%

26%

29%

36%

Cerdded

48%

41%

41%

32%

Cyfartaledd Hyd [milltiroedd]

2.5

3.0

2.5

2.7

Ffynhonnell: Arolwg Teithio Cenedlaethol

Trïwch hyn!
Defnyddiwch y ffeithiau a'r tablau i ddisgrifio cludiant yng Nghymru.

  • Disgrifiwch y defnydd o gludiant cyhoeddus yn ystod y cyfnod hwn
  • Nodwch y prif resymau dros deithio
  • A yw'r defnydd o gar ar gyfer cymudo ar gynnydd?
  • Disgrifiwch y newidiadau i ganran y disgyblion yn teithio i'r ysgol mewn car
Cymharwch yr ystadegau cenedlaethol hyn â rhai eich ardal chi. Chwiliwch www.wales.gov.uk, darganfyddwch yr adran ystadegau, yna'r isadran 'cludiant'. A yw maint y drafnidiaeth yn eich ardal chi yn fwy neu yn is na'r cyfartaledd i Gymru?

Awgrymwch syniadau o eiddoch eich hun ar gyfer lleihau cludiant ceir


            Adrannau perthnasol: