Oed 11 - 18 > Beth a fedrwn ei wneud i leihau newid hinsawdd? > Lleihau ein hangen am egni > Yn ein dull ni o fyw
YN EIN DULL NI O FYW

Mae pawb yn gadael ôl troed ecolegol.

Mae'r ôl troed yn cyfrifo:

  • faint o dir ac o fôr sydd arnom  eu hangen i'n cyflenwi ag egni, dŵr a defnyddiau a ddefnyddiwn yn ein bywydau bob dydd,
  • yr allyriannau a gynhyrchwn o'r olew, glo a nwy a losgwn,
  • faint o dir sydd ei angen i lyncu ein gwastraff.

Gwneir eich ôl troed o'r canlynol          
Cludiant Awyrennau, ceir, trenau a bysiau
Bwyd Ffrwythau, llysiau, cig, llefrith/llaeth, bwyta allan, bwyd cyflym
Defnyddiau traul a nwyddau sy'n para Cylchgronau, dodrefn/celfi, rhewgelloedd a llawer o gynhyrchion eraill
Isadeiledd egni a dŵr Nwy, trydan, glo, olew, egni adnewyddadwy Treuliant dŵr
Isadeiledd Stoc tai a datblygiad masnachol
Gwastraff Cartrefi a masnach, ailgylchu a chompostio
Defnydd tir Tir Amaethyddol, ffyrdd a thir adeiledig

Ffeithiau:
Dangosodd yr astudiaeth ôl traed gyntaf o Gymru bod  

  • y Cymro cyffredin yn defnyddio 5.25 hectarau byd-eang o adnoddau
  • yr Americanwr nodweddiadol yn defnyddio 9.6 hectar
  • y Bangladeshi nodweddiadol yn defnyddio 0.5 hectar



Trïwch hyn!
Ewch i safle ôl troed Ecolegol Cymru a chwiliwch am sut y mae gwahanol ffyrdd o fyw yn effeithio at olion traed ecolegol

Yna ewch i'r cyswllt www.myfootprint.org  a chyfrifwch eich ôl troed eich hun

Edrychwch ar sut y gellwch leihau eich effaith ecolegol. Pam na rowch gynnig ar rai ohonynt?

Gêm gwneud penderfyniadau yw 'Rydw i yn iawn Jac!' Ar wahanol adegau yn ei fywyd gofynnir i chi wneud penderfyniadau am ddull Jac o fyw.  


            Adrannau perthnasol: