Y prif ddefnyddiau adeiladu yn y Tŷ Gwyrdd yw pren, gwlân, clai a llechi, i gyd yn lleol i Gymru, rhai hyd yn oed o'r safle. Roedd hyn yn gostwng y tanwydd a ddefnyddiwyd i gludo. Mae'r tŷ bron yn hunangynhaliol ac nid yw'n cynhyrchu unrhyw allyriannau CO2
Defnyddiau Adeiladu
Pren derw a dyfwyd yn lleol.
Defnyddiwyd pridd o'r sylfeini ar gyfer briciau yn y brif wal gynnal.
Ynysiad
[Lleihau'r galw am wresogi] briciau o bridd yn rhoi i'r adeilad leinin o friweg.
[Gwlân dafad] fel màs thermol i'r waliau.
Yn wynebu'r de
Egni adnewyddadwy
Ceir llawer o wydr yn y wal sy'n wynebu'r de i dderbyn egni solar. Rheolir hyn gan 'groen' o gaeadau, sy'n cael eu haddasu yn awtomatig.
Darperir gwres canolog a dŵr poeth drwy bwmp gwres sy'n cael trydan o'r ddaear - rhyw fath o rewgell o chwith - sy'n pwmpio dŵr oer i lawr i ddyfnder o 35 metr, gan gymryd gwres o'r ddaear a'i ollwng fel gwres.
Trïwch hyn!
Chwaraewch y gêm sy'n dilyn i weld os gellwch ddarganfod ffyrdd o arbed egni yn y cartref.