Mae gan safle diwydiannol Bae Baglan waith sydd â'r dechnoleg fwyaf datblygedig yn dechnegol a'r mwyaf cyfeillgar at yr amgylchedd yn y byd i gyd, sef Technoleg tyrbin y System H™ turbine.
Mae pwerdy yn gollwng lefelau isel o nwyon tŷ gwydr.
Mae defnyddwyr y Parc Egni yn arbed 30% ar eu biliau egni.
Mae diwydiannau gweithgynhyrchu sydd yn defnyddio llawer o egni yn cael eu denu at y safle e.e. yn 2004 sefydlodd Intertissue, sydd yn trosi papur i gynhyrchion papur eraill yn y Parc Egni.
Canolfan Solar
Defnyddir canolfan solar fel canolfan ymwelwyr y safle ac mae’n dangos sut y gall y celloedd ffotofoltaig sy’n ffurfio’r wal sy’n wynebu’r de, ostwng y tanwydd sydd ei angen i gynhesu'r adeilad.