Oed 7 - 11 > Beth yw newid hinsawdd? > Sut y gallwn weld hyn?
Sut y gallwn ni weld effeithiau newid yn yr hinsawdd?

Gorchuddir pegynau’r Gogledd a’r De â chapiau iâ.

Y tymereddau cynnes sy’n gwneud i’r iâ ddadlaith.

Mae rhewlifoedd yn symud allan o’r capiau iâ fel past dannedd yn cael ei chwistrellu allan yn araf o diwb. Mae rhewlifoedd hefyd yn dadlaith.

Chwiliwch am DDAU wahaniaeth rhwng y ddau ffotograff isod. Tynnwyd un tua 1991 a’r llall tua 2001.


            Adrannau perthnasol: