Pam y dylwn ddefnyddio llai o drydan a phetrol?
1. Defnyddio llai o drydan
|
Pwerdy

|

|
Peilon

|

|
Bwlb trydan

|
Mae rhai pwerdai yn defnyddio glo i wneud trydan.
Dargludir trydan ar hyd gwifrau, sy’n cael eu cynnal gan beilonau.
Trydan sy’n rhoi pwer i’r bwlb golau.
Beth arall sy’n cael ei bweru gan drydan?
2.Llosgi llai o betrol

Llosgir petrol i gynhyrchu pwer ar gyfer injan/peiriant.
Mae’r petrol a losgwyd yn troi yn nwy a daw allan o’r bibell wacáu
PAM y dylwn ddefnyddio llai o drydan a phetrol?
Mae llosgi glo i gynhyrchu trydan, a defnyddio petrol i redeg car, yn llygru ein hamgylchedd â CARBON.
|
Ffeithiau:
|
|
Cynhyrchir carbon wrth losgi defnyddiau megis coed, glo a phetrol. Hwyrach eich bod yn ei adnabod fel parddu. Dyma’r powdr du sy’n weddill ar ôl tân.
Mae llosgi glo a phetrol yn cynhyrchu nwyon megis carbon deuocsid a charbon monocsid.
Nwy carbon deuocsid yw prif achos EFFAITH TŶ GWYDR.
|
|