Oed 7 - 11 > Sut y gallwn arafu Newid Hinsawdd yng Nghymru? > Beth fedrwn ni ei wneud gyda’n gilydd?
BETH FEDRWN NI EI WNEUD GYDA’N GILYDD?

Cadw natur ar waith

Mae coed yn cymryd carbon deuocsid o’r aer ac yn rhyddhau ocsigen.

Mae mwy o goed yn golygu y defnyddir mwy o garbon deuocsid.

Carbon deuocsid yw’r prif nwy ty gwydr.

Felly mae mwy o goed yn golygu y defnyddir mwy o nwyon ty gwydr.

Mae hyn yn arwain at lai o nwyon ty gwydr a llai o newid hinsawdd.


Yng Nghymru ceir cynllun sy’n “cloi” carbon drwy blannu coed.

Ffeithiau:
Mae K.T. Tunstall wedi cefnogi plannu digon o goed i gymryd lle allyriannau CO2 drwy wneud 500,000 o gopïau o’r albwm Eye to the Telescope.

Mae Coldplay wedi prynu 10,000 o goed mango yn India i gymryd lle yr allyriannau CO2 a gynhyrchwyd drwy werthu 26 miliwn o’r albwm.


A hoffech chi fod yn ymwneud â chynllun plannu coed?

Trïwch hyn!
Ewch at  www.coolkidsforacoolclimate.org i wirio beth y mae plantos eraill yn ei wneud ac i ddod o hyd i gynlluniau eraill o blannu coed .


            Adrannau perthnasol: