LEFELAU AFONYDD
Fe fydd
- mwy o law yn y gaeaf. Mae hyn yn achosi i'r ddaear fynd yn drwythedig.
- glaw trymach yn y gaeaf. Nid yw hwn yn ymdreiddio mor rhwydd i'r ddaear.
- mwy o sychder yn yr haf. Bydd hyn, gyda thymereddau uwch, yn crasu'r pridd.
 Maes Parc Underhill, Abertawe - wedi glaw trwm © Photolibrary Wales
Bydd hyn yn arwain at:
- 'Dwr ffo' yn dilyn y cynnydd mewn glawiad yn troi yn 'llif trosir'
- dŵr glaw sy'n disgyn ar ochrau dyffryn yn cyrraedd afonydd yn gyflymach drwy lifo dros y wyneb
- lefel afonydd yn codi'n gyflym
- siawns uwch y bydd afonydd yn gorlifo eu glannau ac yn achosi llifogydd
I gael yr astudiaeth achos am Afon Hafren cliciwch ar y bar gwyn uchod
|
|