GWYBODAETH A RHYBUDD CYNNAR
Ceir mapiau rhyngweithiol ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd. Maent yn eich galluogi i archwilio unrhyw ardal yng Nghymru ar raddfa leol. Edrychwch ar y mapiau yma
Maent yn rhoi gwybodaeth fanwl i chi ar:
- ardaloedd lle ceir llifogydd môr ac afon ond heb fod yma amddiffynfeydd
- maint llifogydd eithafol
- amddiffynfeydd rhag llifogydd
- ardaloedd a ddiogelir gan amddiffynfeydd llifogydd
Mae’r safle hefyd yn cyhoeddi rhybuddion melyngoch a choch yn ddyddiol wedi eu diweddaru bob 15 munud.
Mae yn cysylltu â safleoedd argyfwng eraill sy’n debyg o fod o werth.
|
|
Trïwch hyn!
|
|
Rhoddwyd rhybudd llifogydd ar gyfer eich ardal. Defnyddiwch y gwefannau i lunio poster, wedi ei gynllunio i’w leoli yn eich Canolfan Gymunedol leol, ac i ddangos yr holl gymorth lleol sydd ar gael ac i ble y gallai pobl fynd am y cymorth hwn
|
|