Oed 11 - 18 > Sut y bydd newid hinsawdd yng Nghymru yn effeithio arnaf i? > Cynllunio ar gyfer llifogydd
CYNLLUNIO AR GYFER LLIFOGYDD

Lluniwyd y map hwn gan Asiantaeth yr Amgylchedd ar gyfer dangos ardaloedd yng Nghymru lle y mae 0.1% o siawns y gall llifogydd eithafol ddigwydd: arfordirol, llanw neu afon. [Ardaloedd Cylchfa C]

Dylai cynllunwyr ystyried llifogydd wrth benderfynu datblygiadau'r dyfodol yn yr ardaloedd hyn.


Allan o ddogfen a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru

"Ein Hamgylchedd, Ein Dyfodol, Eich Barn". Ffynhonnell wreiddiol: Asiantaeth yr Amgylchedd

Am wybodaeth a rhybudd cynnar cliciwch ar y bar gwyn uchod.

Trïwch hyn!
Defnyddiwch y map i ddisgrifio dosbarthiad yr ardaloedd sydd fwyaf tebygol o ddioddef llifogydd yn y dyfodol.

Pa weithgareddau a geir yn yr ardaloedd hyn? Sut y buasai llifogydd yn yr ardaloedd hyn yn effeithio ar ddatblygiad economaidd Cymru?

Os ydych am weld delweddau lloeren o Gymru, llwythwch i lawr y rhaglen rhad ac am ddim o Google Earth.


            Adrannau perthnasol: