Oed 11 - 18 > Sut y bydd newid hinsawdd yng Nghymru yn effeithio arnaf i? > Tirlithriadau > Achosion tirlithriadau
ACHOSION TIRLITHRIADAU

Cysylltir tirlithriadau â:

  • Llethrau serth, [ger ongl y cwymp]
  • Creigiau athraidd, [sy’n gadael i ddŵr lifo trwyddynt]
  • Dŵr mewn pridd a chraig, [mae hyn yn iro’r ddaear gan ei gwneud yn fwy ansefydlog]
  • Gweithgaredd dynol – tomenni gwastraff mwyngloddio a thoriadau ffyrdd, [yn creu llethrau serthach]

Pam fod llawer o dirlithriadau yng Nghymru?

Am fod cyfuniad o’r ffactorau uchod yn digwydd yn aml.

  • Llethrau serth mewn dyffrynnoedd rhewlifol a chlogwyni arfordirol
  • Ym maes glo De Cymru ceir tywodfaen athraidd bob yn ail â haenau clai anathraidd [mae clai yn rhwystro dwr glaw dryddiferu ymhellach i’r ddaear ac felly y mae’r haenau athraidd uwchlaw yn mynd yn drwythedig ac mae tarddellau yn ffurfio]
  • Mae G Cymru yn un o ardaloedd gwlypaf y DU
  • Cloddio am lo yn Ne Cymru, adeiladu priffyrdd arfordirol yng Ngogledd Cymru.

Pam y dylem ni ymboeni am dirlithriadau?

  • Rhagwelir y bydd newid hinsawdd yn dod â gaeafau gwlypach a chyflyrau stormus dwysach. [ Newid hinsawdd yng Nghymru yn y dyfodol]
  • Dim ond cyflyrau sy’n achosi mwy o dirlithriadau yng Nghymru yw’r rhain.










Blaencwm, Rhondda Valley, S. Wales
Tirlun, Blaencwm. Cwm Rhondda, De Cymru
© Photolibrary Wales


Ffeithiau:
Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diweddar yng Nghymru mae tirlithriadau wedi cael eu monitro.


Gwelwyd bod:

  • tirlithriadau yn dod yn fwy
  • maent yn aml yn digwydd ar ôl glawiad
  • mae 3 tirlithriad yn ystod y 25 mlynedd diwethaf wedi lladd pobl yng Nghymru



            Adrannau perthnasol: