|
Dychmygwch eich bod yn byw mewn ardal yng Nghymru lle roedd tirlithriadau yn bosibl oherwydd newidiadau hinsawdd. Rydych yn awyddus i gychwyn GRŴP GWEITHREDU i wneud yn siwr bod pawb yn yr ardal yn gwybod am y perygl posibl ac yn gwybod sut i ymateb.
Pwy hoffech chi fod fel rhan o’r grŵp gweithredu? [Meddyliwch am y rhai sy’n penderfynu’n lleol, yn rhanbarthol, a’r rhai sy’n ymwneud â chynllunio mewn argyfwng]
Gan gydweithio â rhai ffrindiau, neilltuwch ran i bob un o’r rhai uchod, e.e. cynghorydd lleol, Aelod Cynulliad lleol,, yr heddlu, daearegwr, ayyb.
CHWARAE RHAN Mae eich grŵp gweithredu am siarad mewn cyfarfod o bobl leol[gallai hwn fod eich dosbarth]
Dyluniwch boster i hysbysebu y cyfarfod cyntaf hwn. Rhowch enw i’ch grŵp gweithredu.
Yn y cyfarfod bydd yn rhaid i bob aelod o’r grŵp wneud cyflwyniad i’r bobl leol. [ Ystyriwch pa wybodaeth y mae ar bob aelod grŵp ei angen]
|