Oed 11 - 18 > Sut y bydd newid hinsawdd yng Nghymru yn effeithio arnaf i? > Llifogydd arfordirol
PAM Y MAE LEFEL MÔR YN CODI?

  • Wrth gynhesu tymereddau aer a thir gall rhewlifoedd ddadlaith - iâ yn troi yn ddŵr sy'n llifo i'r môr

  • Mae tymheredd y môr yn cynyddu - mae dŵr yn ehangu ychydig wrth gael ei gynhesu

M.Brooks
Mynyddoedd iâ yn dadlaith, De Gwlad yr Iâ [M Brooks]

Ffeithiau:
Morlin Cymru

  • Mae gan Gymru forlin 1562km o hyd [8% o forlin Prydain]
  • Mae lefel môr yng Nghymru tua 10cm yn uwch nag yr oedd yn 1990
  • Gall amlder lefelau môr eithafol gynyddu 10-20 gwaith erbyn 2080
  • Mae'r tir yn ne Cymru yn raddol suddo [addasiad isostatig] yn dilyn Oes yr Iâ
  • Mae nifer o bobl yn byw ger yr arfordir
  • Ceir twristiaeth, amaethyddiaeth, diwydiannau eilaidd a gwasanaeth ger arfordir Cymru
  • Ceir ecosystemau unigryw ar hyd y morlin

Dwysedd poblogaeth a thopogaffi
Allan o "Ein Hamgylchedd, Ein Dyfodol, Eich Barn"
Llywodraeth Cynulliad Cymru, Gorffennaf 2005.


Chwiliwch am stormydd ac amddiffynfeydd môr drwy glicio y bar gwyn uchod



Trïwch hyn!
Faint o effaith ar Gymru a gaiff codiad yn lefel môr?


1. Edrychwch ar y map poblogaeth a ddangosir yma.

  • Ymhle y mae'r rhan fwyaf o bobl Cymru yn byw?
2. Edrychwch ar fapiau eraill o Gymru

  • Ymhle y lleolir y prif weithgareddau economaidd yng Nghymru?
  • Faint o boblogaeth a gweithgareddau economaidd Cymru sydd i'w cael ger yr arfordir?

3. Ceir nifer o amgylcheddau naturiol o gwmpas arfordir Cymru megis


  • clogwyni
  • morydau
  • twyni tywod
  • morfeydd heli
Pa amgylchedd fydd yr un yr effeithir mwyaf arno gan godiad yn lefel môr?


4. Chwiliwch drwy wefan yr Archifau Cenedlaethol i ddarganfod gwybodaetham yr arfordir yn eich ardal chi. Y wefan www.ndad.nationalarchives.gov.uk Y cyfeirnod perthnasol i arolygon arfordirol Cymru yw CRDA/6/DS/1/1

 

            Adrannau perthnasol: