Oed 11 - 18 > Sut y bydd newid hinsawdd yng Nghymru yn effeithio arnaf i? > Bioamrywiaeth > Diogelu Bioamrywiaeth
CYNLLUNIAU GWEITHREDU BIOAMRYWIAETH

Biodiversity map - areas designated for their importance for biodiversity
Allan o "Ein Hamgylchedd, Ein Dyfodol, Ein Barnau"
Llywodraeth y Cynulliad, Gorffennaf 2005.

Datblygwyd cynlluniau gweithredu Bioamrywiaeth ar gyfer gwarchod rhywogaethau ers Uwchgynhadledd y Byd yn Rio yn 1992.

Yng Nghymru canolbwyntiwyd ar 12 cynefin a 54 rhywogaethau.

Mae’r cynlluniau hyn yn awr yn troi’n weithredoedd ar lefel lleol yn ogystal â rhanbarthol

- mynd i’r afael â diogelu rhywogaethau megis y wiwer goch, y llygoden ddŵr, dyfrgi, gloyn byw brith y gors, cornicyll, ehedydd, llyffant cefnfelyn a’r gele feddyginaethol.

Mae’r cynefinoedd sydd dan fygythiad ac sy’n cael sylw arbennig yn cynnwys coed derw’r uwchdir, rhostiroedd yr iseldir, ffens a chorsleoedd a lagwnau heli.’ [CCGC]


Ceir Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth yn cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol a grwpiau gwirfoddol.

Trïwch hyn!
Chwiliwch y we am eich grŵp lleol er mwyn dod i wybod am eu prosiectau. Buasent yn hoffi cael mwy o wirfoddolwyr.

Nodir rhai safleoedd yma:


www.wildlifetrust.org.uk  ar gyfer Brycheiniog, De a Gorllewin Cymru; Gwent; Maldwyn.



www.biodiversitywales.org.uk yn rhoi cysylltiadau lleol


            Adrannau perthnasol: