Oed 11 - 18 > Beth sy'n achosi newid hinsawdd? > Felly beth yw'r broblem?
Snowdon and Castell y Gwynt in snow from photolibrary wales

Yr Wyddfa a Chastell y Gwynt
© Photolibrary Wales

FELLY BETH YW'R BROBLEM?

Mae hinsawdd erioed wedi bod yn newid. Gorchuddiwyd Cymru gan iâ 20,000 mlynedd yn ôl

Fodd bynnag, yn y gorffennol roedd newid hinsawdd yn digwydd yn arafach ac mae'r anifeiliaid a'r planhigion wedi gallu addasu drwy yn raddol fudo neu esblygu.

Y broblem ar hyn o bryd yw bod tymereddau byd-eang yn cynyddu'n gyflym ac nid yw ecosystemau yn gallu dal i fyny â'r newidiadau hyn.

Pam y mae'n newid mor gyflym?

Mae crynodiad y nwyon tŷ gwydr yn yr atmosffer wedi aros bron yn gyson am y 10,000 mlynedd ddiwethaf [ers Oes yr iâ]

Fodd bynnag, yn y 100 mlynedd diwethaf mae crynodiad y nwyon ty gwydr, yn arbennig carbon deuocsid, CO2, wedi cynyddu'n gyflym.

Ceir cydberthynas agos rhwng crynodiadau CO2 a thymereddau cyfartalog byd-eang.


            Adrannau perthnasol: