BETH YW’R DYSTIOLAETH DROS NEWID HINSAWDD?
1. Newid hinsawdd fyd-eang
http://nsidc.org/ yw safle canolfan genedlaethol data eira a rhew'r UD lle y gellir gweld golygfeydd dyddiol cyfredol, a chofnod o’r newidiadau yn y capiau iâ pegynol. Yn ‘State of the cryosphere’ mae cipluniau yn rhoi delweddau amser real o’r iâ pegynol.
2. Newid hinsawdd DU
Adroddiad yw hwn a ysgrifennwyd gan Ganolfan Tyndell ar gyfer Ymchwil i Newid Hinsawdd a chan Ganolfan Hadley y Swyddfa Dywydd ar gyfer Adran DEFRA Llywodraeth DU - Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.
Mae’n adroddiad sydd wedi ei ysgrifennu mewn modd rhwydd ei ddarllen, ar gyfer helpu'r DU baratoi ar gyfer newid hinsawdd. Mae’n trafod lefel ansicrwydd newid hinsawdd.
Mae gan yr adran A yw ein hinsawdd yn newid? graffiau o newidiadau hinsawdd y DU yn y gorffennol
3. Casglu tystiolaeth – Dangosyddion newid hinsawdd yng Nghymru
Mae’n cynnwys gwybodaeth am y dangosyddion sy’n dilyn:
Hinsawdd: tymheredd; glawiad; gorchudd eira; gwyntoedd y gorllewin a’r de orllewin; tymhestloedd; ansawdd aer.
Bywyd gwyllt yn cynnwys amseru: clustiau yn ymddangos; dyddiadau deilio; cyflenwad pryfed ar ei uchaf; mudo adar; dodwy wyau; blodeuo.
Tueddiadau mewn: iechyd; gweithgareddau amaethyddol; coedwigaeth; lefel môr; tymheredd môr.
Mae’r adolygiad yn cymeradwyo parhau i gasglu data tymor hir yn safleoedd Rhwydwaith Newid Amgylcheddol [RhNA] e.e. ar yr Wyddfa a Phumlumon.
Ewch i amgylchedd, yna i gyswllt newid hinsawdd, i newid hinsawdd Cylchlythyr 1.
Mae hwn yn cynnwys graff o uchafbwynt ac isafbwynt tymereddau ar yr Wyddfa dros ddau gyfnod 1966-77 a 1996-2003 ac yn eu cymharu.
Mae isafbwynt tymheredd heddiw yn gynhesach nag yn 1966-1977 o gyfartaledd o 1.3oC
I’r gwrthwyneb, nid yw uchafbwynt tymheredd wedi newid fawr ddim dros y 2 gyfnod.
Dyma safle rhyngweithiol. Dewiswch ddangosydd a dangosir graffiau o newidiadau yn y dangosydd hwn mewn safleoedd ledled y DU, gan gynnwys Eryri.
Mae rhywogaethau sy’n sensitif i hinsawdd hefyd yn cael eu monitro yn nangosyddion Bioamrywiaeth newid hinsawdd.
|