UG/Uwch Adref > Sut y gallwn ni addasu ein hunain i newidiadau tymor hir mewn hinsawdd > Cynllunio ar gyfer llifogydd y dyfodol yng Nghymru
Cynllunio ar gyfer llifogydd y dyfodol yng Nghymru


NCT{C}/TAN(W) 14, amddiffyn arfordir, sy’n cyflwyno arweiniad technegol ar y risg o lifogydd arfordirol ac amddiffyniadau arfordirol, a NCT(C)TAN(W) 15, Nodiadau Cynghori Technegol ar gynllunio’r dyfodol ar ddatblygiad a risg llifogydd

Mae Rhaglen Ymchwil Amgylcheddol LlCC yn cefnogi agenda strategol y Cynulliad ar gyfer Cymru - Gwell Gwlad - sy’n gosod y weledigaeth ar ddyfodol cynaliadwy lle ceir gweithredu ar y cyd dros welliannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol er mwyn creu newid cadarnhaol. Mae’r agenda yn dynodi'r angen am weithredu yn ein hamgylchedd adeiledig a naturiol er mwyn gwella balchder yn y gymuned, cefnogi bioamrywiaeth, hybu cyflogaeth leol a helpu i leihau cynhyrchu gwastraff, gofynion egni a chludiant.

Gellir e-bostio cylchlythyrau ar Newid Hinsawdd yng Nghymru atoch chi.



Darparodd y cwmni hwn gyngor technegol ar y cynllun amddiffyn arfordir yn yr ardal a hefyd ymgymerodd ag Asesiad Effaith ar yr Amgylchedd (AEA) yn unol â rheoliadau 1999 Cynllunio Gwlad a Thref (Asesiad Effaith yr Amgylchedd, Cymru a Lloegr). Cymeradwywyd y cynllun arfaethedig yn 2004.

Ceir manylion am lifogydd Towyn yn adran 11-16.



Un o adroddiadau’r amgylchedd yn adran Cymru sy’n disgrifio amddiffyn rhag llifogydd a materion amgylcheddol eraill ym Mae Caerdydd.



Sefydlwyd Cynlluniau Datblygu Morlin (CDM) er mwyn creu polisïau cynaliadwy ar gyfer amddiffyn yr arfordir.

Y prif amcanion mewn datblygu CDM yw:

  • gwella dealltwriaeth o brosesau arfordirol o fewn cell ddyddodiad;
  • rhagweld esblygiad o’r arfordir sy’n debygol yn y dyfodol,
  • adnabod o fewn yr ardal berthnasol i’r Cynllun yr holl asedau sy’n debygol o gael eu heffeithio gan newid arfordirol;
  • nodi’r angen am ymchwil ac archwiliadau perthnasol i safle penodol ac i’r rhanbarth;
  • hyrwyddo ymgynghori rhwng cyrff sydd â diddordeb yn y morlin.

Mae angen mynd i’r afael â phedwar mater allweddol wrth baratoi Cynllun Rheoli Morlin. Y rhain yw:

  • prosesau arfordirol
  • amddiffyn yr arfordir
  • defnydd tir a’r amgylchedd adeiledig o waith dyn
  • yr amgylchedd naturiol
Er mwyn rhoi gwybod am benderfyniadau CDM, comisiynodd DEFRA a LlCC prosiect COAST y dyfodol.. Mae’r adroddiad hwn a ymgymerwyd gan Halcrow Group Ltd., yn adroddiad ar esblygiad morlin dros y 100 mlynedd nesaf. Fe’i cyhoeddwyd yn 2002, ac mae’n cyflwyno gwybodaeth am bob rhan o’r morlin Cymreig ar brosesau arfordirol lleol ac ar asesiad effeithiau newid hinsawdd. Ceir y wybodaeth sy’n cynnwys mapiau, awyrluniau a dadansoddiad ar CDRoms sydd ar gael i SMPs


yn dangos gwaith Rheolaeth Gyfunol Cylchfa Arfordirol yng Nghymru


Llywodraeth Cynulliad Cymru, Nodyn Cyngor Technegol NCT/TAN 15 - Datblygiad a risg llifogydd, 2004 - mae’n darparu fframwaith y gellir o’i fewn asesu risgiau sy’n deillio o lifogydd afon a môr, ac oddi wrth gynnydd mewn dŵr ffo sy’n deillio o ddatblygiad mewn unrhyw leoliad.


Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru wedi ysgrifennu adroddiad cynhwysfawr ar Lifogydd yng Nghymru, Hydref 2000. Mae’n cynnwys achosion digwyddiadau, manylion o’u heffeithiau ledled Cymru, adolygiad o strategaeth AA ar gyfer rhagweld llifogydd yn y dyfodol, yn ogystal â rhybuddion llifogydd ac ymateb i argyfyngau.


yn disgrifio rheolaeth gynaliadwy cynllun Rheoliad Afon Ddyfrdwy. Cyfunir cyflenwad mawr cyhoeddus o ddwr â lleihau llifogydd. Mae pysgota, gweithgareddau hamdden a thrydan dwr hefyd yn ddefnyddiau cydnaws o’r dalgylch afon.


            Adrannau perthnasol: