Cymunedau sy'n Dysgu
Ar hyn o bryd mae'r rhan Cymunedau sy'n Dysgu yn y porth yn darparu fforymau trafod ar lein, sy'n caniatáu i grwpiau addysgol yng Nghymru rannu syniadau, gwybodaeth, sylwadau ac ymarfer gorau.
Os ydych eisoes wedi'ch cofrestru fel aelod, cliciwch ar y cyswllt isod i fewngofnodi;
- Welsh Bac Qualification - Gwybodaeth, adnoddau a fforwm ar gyfer athrawon a darlithwyr sy'n cyflwyno'r Bac Cymreig
Fel arall, os ydych chi'n aelod o grwp neu fudiad y teimlo fyddai'n elwa o gael mynediad i fforwm trafodaeth ar lein yna dylech gysylltu â GCaD Cymru i drafod eich gofynion.
Rhagwelir hefyd y gallai GCaD Cymru, fel rhan o ddatblygiadau'r dyfodol, ddarparu:
Gwefannau ar gyfer grwpiau addysgol yng Nghymru, gan gynnwys
- Cymdeithasau pwnc
- Grwpiau diddordeb arbennig
- Grwpiau datblygu'r cwricwlwm
- Cyrff addysgol gyda chyfansoddiad penodol
- Darparu gwybodaeth am y grwpiau hyn i gynulleidfa ehangach sydd heb fod yn aelodau
Y bwriad fydd darparu amrediad o gyfleusterau i addysgwyr yng Nghymru a allai gynnwys:
- Tudalen gartref
- Adran i aelodau wedi'i gwarchod gan gyfrinair
- Fforwm trafod a all gynnal trafodaethau agored a chaeëdig
- Adran adnoddau/dogfennau
- Tudalennau gwybodaeth a fydd ar gael i bawb
Yn arwyddocaol, gall grwpiau o athrawon ac eraill sy'n gweithio ar baratoi cynnwys i'w roi yn CAR Cymru ei ddefnyddio hefyd. Dylai mudiadau sy'n dymuno defnyddio'r cyfleuster hwn gysylltu â GCaD Cymru i drafod eu gofynion.