Amgueddfeydd

Amgueddfeydd

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn amgueddfa i bawb. Fel cartref casgliadau campus o Gymru a’r byd, mae’r amgueddfa’n rhoi llwyfan i wiethiau celf, archaeoleg, daeareg a’r byd natur – oll o dan un to.

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yw un o amgueddfeydd awyr agored mwyaf poblogaidd y byd, a’r barcdir sy’n ymestyn dros gant o erwau. Mae aelwydydd ac adeiladau hanesyddol y wlad wedi’u symud a’u hailgodi yn yr amgueddfa; gan gynnwys oes Fictoria, bythynod gweithwyr haearn a chapel gwledig.

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn olrhain hanes ac effaith diwydiant ac arloesi ar fywydau pobl Cymru yn ystod y 300 mlynedd diwethaf. Bydd y dechnoleg ryngweithiol ddiweddaraf ac eitemau bob dydd yn dod a’r Chwyldro Diwydiannol yn fyw o flaen eich llygaid.

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru – mae’r Amguedddfa hon ar safle hen gaer Rhufeinig Caerllion, sy’n enwog am mai yno mae’r amffitheatr mwyaf cyflawn yng ngwledydd Prydain ac olion hen wersyll milwrol Rhufeinig – yr unig olion o’u math yn Ewrop gyfan. Mae’r Amgueddfa’n trefnu rhaglen o ddigwyddiadau gydol y flwyddyn i ddod a hanes y Rhufeiniaid yn fyw i blant ac oedolion.

Amgueddfa Wlan Cymru – mewn llecyn clud yn Nre-fach Felindre yn Nyffryn Tywi yn hen ffatri’r Cambrian Mills, mae Amgueddfa Wlan Cymru – a fu unwaith yn ganolbwynt i ddiwydiant gwlan llewyrchus Cymru. Mae’r Amgueddfa yn adrodd hanes diwydiant oedd yn cynhyrchu crysau, siolau, blancedi, carthenni a hosanau gwlan fyddai’n cael eu gwerthu mewn marchnadoedd lleol, yn dilladu gweithlu Cymru ac yn cael eu hallforio i bedwar ban y byd.

Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru – Yn yr Amgueddfa Lofaol, cewch fynd ar daith o dan y ddaear i weld glofa go iawn. Fel enillydd Gwobr Gulbenkian am Amgueddfa’r Flwyddyn yn 2005, mae gennym rywbeth i blesio pawb o bob oed.

Amgueddfa Lechi Cymru – dan gysgod y mynyddoedd llechi, mae’r Amgueddfa hon mewn gweithdai diwydiannol o oes Fictoria a fu unwaith yn eiddo i chwarel enfawr Dinorwig uwchlaw. O’r streiciau a dioddefaint a chyni’r gweithwyr i’w crefftwaith a’u cymdeithas, dyma gyfle i chi gael blas ar fywydau’r chwarelwyr a’u teuluoedd.

Cysylltwch â ni |  Hygyrchedd |  Adborth |  Cymorth |  Map o'r wefan |  Ymwadiad