GCaD - Gwlad sy'n Dysgu - Mudiadau

Mudiadau

Arolwg Ordnans
Asiantaeth Fapio Genedlaethol Prydain.

Addysg Defnyddwyr
Mae addysg defnyddwyr yn ymwneud â sgiliau, agwedd, gwybodaeth a dealltwriaeth sydd yn angenrheidiol ar gyfer bod yn gwsmer effeithiol. Mae addysg defnyddwyr yn cyflwyno sgiliau i bobl sydd yn eu galluogi i wneud dewisiadau call ac i ddelio â phroblemau yn effeithiol gan ofyn am gymorth a gwybodaeth pellach os oes angen".

Mae'r wefan ddwyieithog yma yn cynnwys sawl adran, fel enghrafft, Siopa, Arian, Deddfau, Iechyd, Amgylchedd, Ysgolion a Cwyno, gyda taflenni gwaith a cwisiau i'w llwytho . Mae'n addas i CA2, CA3, CA4 a thu hwnt. Yn ychwanegol mae gwybodaeth ac adnoddau ar gael sy'n ddefnyddiol at PSHE.

Addysg Ffermio a Chefn Gwlad - FACE
FACE
Sefydliad sydd yn hyrwyddo gwaith addysgol mewn perthynas â bwyd, ffermio a chefn gwlad.  Mae FACE yn cefnogi ymweliadau i ffermydd ac yn cynnig adnoddau a gweithgareddau sydd yn ategu'r ymweliadau hynny.

Cliciwch yma i chwilio am ffermydd yn eich ardal sydd yn croesawu ymweliadau gan ysgolion.

Astiantaeth Safonau Bwyd
Food Standards Agency WalesMae'r Astiantaeth Safonau Bwyd yn gyfrifol am hyrwyddo gwybodaeth ynglyn a dyroddiad bwyd, gan gynnwys diogelwch bwyd, labelu bwyd a maethiad/bwyta'n iachus.

Adnoddau sy'n edrych ar ddiogelwch bwyd a diet yn cynnwys Saesneg Maths Gwyddoniaeth a Cherddoriaeth.
Cynghorau Ysgol Cymru - Mynnwch ddweud eich dweud am yr hyn sy'n digwydd yn eich ysgol chi.

Cyngor Llyfrau Cymru
Cyngor Llyfrau CymruY mae’r Cyngor Llyfrau’n gorff cenedlaethol, dan nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru, sy’n ganolbwynt i’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru. Y mae’n darparu nifer o wasanaethau arbenigol (ym meysydd golygu, dylunio, marchnata a dosbarthu) gyda golwg ar wella safonau cynhyrchu a chyhoeddi llyfrau yn y Gymraeg a’r Saesneg.


Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Welsh Language Board / Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn gorff statudol sy'n gyfrifol am hyrwyddo a hwyluso defnyddio'r iaith Gymraeg.  Mae ei gwefan yn cynnwys gwybodaeth, cefndir a manylion am ei gweithgareddau presennol, dogfennau, cysylltiadau ac adnoddau.

Cyngor Addysg mewn Dinasyddiaeth Byd - Cymru
CEWC

Elusen addysgol yw CEWC-Cymru, sydd yn gweithio gyda phobl ifanc i hybu dinasyddiaeth byd gweithredol trwy Gymru gyfan. Mae hefyd yn cyflenwi adnoddau a hyfforddiant ar gyfer ABCh ac addysg mewn dinasyddiaeth yng Nghymru. Ymhlith y digwyddiadau a drefnir gan CEWC-Cymru mae Pencampwriaethau Dadlau Ysgolion Cymru, cyfarfodydd Model y Cenhedloedd Unedig, Seneddau Ieuenctid Ewropeaidd a gweithdai ar hawliau dynol.

Draig ffynci
Funky Dragon

Prif swyddogaeth Draig Ffynci yw sicrhau bod barn plant a phobl ifanc yn cael ei glywed, yn enwedig gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac i wneud yn siwr eu bod yn cael cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau ar lefel genedlaethol.

GWales.com
GWales.com
Gwasanaeth chwilio ac archebu llyfrau Cymraeg a Chymreig.


Gwasanaethau Gwirfoddol Dramor
Voluntary Services Overseas
Ydych chi'n barod am addysg? Dyma eich cyfle i rannu eich sgiliau â chydweithwyr o gymunedau ar draws y byd a dechrau newid bywydau heddiw.


Wise Kids

Mae "Wise Kids" yn fudiad a sefydlwyd i hyrwyddo defnydd cadarnhoal a diogel o'r Rhyngrywd. Mae gan y safle hefyd gysylltau defnyddiol gan gynnwys peiriannau chwilio cyfeillgar i'r teulu.