Ffynonellau Cwricwlwm > Hanes

Hanes

British Museum
Safle mawr iawn sy’n cael ei gynnal yn dda. Y ffordd gyflymaf o deithio drwyddo yw mynd at y map safle a llywio oddi yno. Mae ei adran ar gyfer ysgolion wedi hen ennill ei phlwyf.

Cestyll Cymru
Ymchwiliad i rai o gestyll Cymru. Yr awdur yw Jeffrey L Thomas. Mae’r safle addysgol hwn yn cynnig manylion ar gestyll a chyfoeth o wybodaeth gefndirol i helpu plant ymchwilio.

Celtica
Atyniad unigryw sy’n trafod y mythau a’r chwedlau Celtaidd. Yma daw ymwelwyr ar draws cyflwyniad cynhyrfus, emosiynol a dynamig ar gyfer ysgogi syniad o’r ysbryd Celtaidd – union enaid diwylliant a threftadaeth Cymru. Ymwelwch â Cheltica, ail-fywiwch ein hetifeddiaeth Geltaidd a theimlwch yr enaid sydd y tu ôl i’n celfyddyd, ein traddodiadau a’n diwylliant. Nid amgueddfa sydd yma, ond profiad bywiog, nwydus a deallusol sy’n mynegi’r ysbryd ‘Celtaidd’ ddoe a heddiw. Adfywiwch eich diddordeb yn y Celtiaid, drwy bair o weithgareddau ac ewch ar daith ddarganfod yng nghwmni Nia a’i brawd Gwydion y mae eu breuddwyd proffwydol gweledigaethol yn arwain at galeidosgop o ddiwylliant Celtaidd – y trobwll.

English Heritage
English Heritage yw’r corff sy’n gwarchod archif y Cofadeiliau Cenedlaethol ar gyfer Lloegr. Mae iddo draddodiad hir o ddarparu cefnogaeth dda ar gyfer athrawon hanes, yn cynnwys deunyddiau ategol am ddim, taflenni gwaith a syniadau ar gyfer prosiectau. Mae’r hyn sydd i’w gael ar-lein yn cynyddu’n gyson.

EuroDocs
Mae’r safle sydd dan reolaeth UDA yn cynnwys dogfennau hanesyddol cynradd o Orllewin Ewrop, sydd wedi eu hadysgrifio, eu hailgynhyrchu neu eu cyfieithu. Maent wedi eu dethol i daflu goleuni ar ddigwyddiadau hanesyddol allweddol o fewn pob gwlad.

Gathering the Jewels
Lluniwyd y safle drwy gronfa’r Loteri ac mae’n cynnwys rhai o brif eitemau sydd ar gadw yn Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd a Phrifysgolion Cymru. Mae’n dal yn cael ei ffurfio ond mae’n bosib ei chwilio.

History Channel
Safle adnoddau o bwys a reolir gan noddwyr y sianel deledu. Mae modd ei archwilio gydag allweddair neu linell amser. Mae’n cynnwys nodwedd atyniadol – ‘beth a ddigwyddodd mewn hanes ar y diwrnod hwn’ gyda chasgliad o eitemau ar unrhyw ddiwrnod penodedig. Gellir hefyd ei chwilio yn ôl unrhyw ddiwrnod o’r wythnos, sy’n ychwanegu ychydig o awch i hanes – yn y chwilio hwn ceir is-setiau megis hanes Rhyfel Byd II/Penawdau heddiw. Safle o adnoddau diddorol sy’n cysylltu â safleoedd perthnasol eraill sydd dan yr un berchenogaeth fel History International.

History Matters
Safle o gymorth i athrawon hanes UDA. Mae’n agor y drws i adnoddau a deunyddiau defnyddiol ar gyfer addysgu Hanes America. Mae’n bosib ei chwilio yn ôl testun ac eitem. Mae’n cynnwys dogfennau cynradd ar ffurf testun, delwedd a sain, arweiniad ar sut i drafod y dystiolaeth, aseiniadau addysgu a dolennau cyswllt. Mae’r arweiniadau yn gymorth arbennig gan fod ganddynt gyngor generig i athrawon hanes ac nid ydynt ynghlwm wrth ddiwylliant. Maent hefyd yn ddefnyddiol fel pwyntiau cyfeirio at waith cyfochrog yn ymwneud â meysydd eraill o hanes. Fodd bynnag mae’r deunydd primaidd yn bennaf wedi ei gyfyngu i Hanes UDA. Eto mae’n ffynhonnell ddefnyddiol i athrawon hanes ymhobman a hwyrach yn fodel i’w ddilyn gan y DG.

History Net
Safle Americanaidd, sydd serch hynny yn cynnwys symiau sylweddol o wybodaeth am weddill y byd. Y thema yw ‘hanes byw’. Mae’n cynnwys yn bennaf erthyglau ar destunau, rhai cyfredol ac wedi’r digwyddiad – mae hyd yn oed yn trafod ymgais y Ffrancod i lanio ar drwyn Pen-caer, Abergwaun.

History On-Line
Safle o dan ofal Prifysgol Llundain ac mae’n hybu adnoddau o ansawdd uchel ar gyfer addysgu a dysgu hanes yn y DG. Daw’r adnoddau o bob ochr i’r Iwerydd. Yn bennaf mae ar gyfer Addysg Uwch ond o ddefnydd hefyd i Safon Uwch.

History Place
Safle yn trafod Hanes America o’r Cyfnod Trefedigaethol tan heddiw. Mae ganddo nifer o adnoddau ar-lein. Dyma safle bywiog sy’n cynnig deunyddiau defnyddiol o fewn ei faes. Mae’n cynnwys nifer o hanesion personol megis profiad merch adeg y bomio yn Llundain.

Internet History Sourcebook
Prifysgol Fordham yn UDA sy’n cynnal y safle hwn. Mae’n fawr iawn ac yn hawdd ei chwilio, ac wedi ei is-rannu i wahanol gyfnodau. Mae’n ymddangos ei fod wedi ei anelu at fyfyrwyr prifysgol, ond o werth i fyfyrwyr Safon Uwch neu i ddysgwr gydol oes. Mae’n cynnwys y gosodiad rhagarweiniol diddorol – ‘Fedra i ddim, neu’n hytrach, wna i ddim gwneud eich gwaith cartref drostoch.’

Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru
Mae’r safle hwn yn cynnwys holl amgueddfeydd ac orielau Cymru. Mae’n ddwyieithog. Mae cyfleuster addysgol iddo. Mae’n cludo cryn dipyn o ddeunyddiau ar-lein.

Powys Ddoe
Siwrnai hanesyddol drwy Bowys wedi ei pharatoi gan Ymddiriedolaethau Archeolegol Clwyd-Powys. Mae’n siwrnai drwy amser yn rhoi cipolwg ar siamberi claddu y ffermwr cyntaf, bryngeiri y Celtiaid paganaidd, ceiri y Rhufeiniaid goresgynnol, cestyll canoloesol y Normaniaid a’r Arglwyddi Cymreig a nifer eraill o safleoedd diddorol sy’n symbylu’r meddwl.

Royal Commission for Ancient & Historical Monuments Scotland
Dyma safle gyfochrog i’r Alban. Mae’r Comisiwn yn cyflenwi yr un gwaith. Mae’r ddau Gomisiwn yn cydweithio ar rai mentrau sydd o werth i ysgolion o safbwynt gwella mynediad i ddeunyddiau.

Comisiwn Brenhinol ar Henebion ac Adeiladau Hanesyddol Cymru  
Yma ceir Archifau Cofadeiliau Cenedlaethol Cymru a nifer fawr o gasgliadau preifat. Bydd yn  bosibl chwilio’r safle hwn yn y dyfodol agos [mewn cydweithrediad ag RCAHMS – gweler isod] drwy fap Ordnans o dan brosiect a elwir SWISH a bydd y Comisiwn yn digideiddio 80% o’i archifau o fewn 2 flynedd, yn cynnwys adnodd enfawr o ddeunydd hanes lleol. Mae’r safle yn un dwyieithog.

Smithsonian Institution
Mae’r Smithsonian Institution yn cynnwys 20 o amgueddfeydd mewn amrywiol fannau yn UDA. Mae’n cael ei ystyried yn flaenllaw yn ei faes drwy’r byd. Er ei fod yn Americanaidd o safbwynt diwylliant mae’n cynnig swm mawr o ddeunydd a gwybodaeth ar gyfer athrawon.

Today-in-History
Safle ’Yr hyn a ddigwyddodd y diwrnod hwn’. Yn llawn gwybodaeth ac yn wir yn ddifyr. Mae’n rhestru genedigaethau/marwolaethau/y rhai sydd ar goll wrth ymladd/ digwyddiadau hanesyddol/ gwyliau byd-eang/ cadwraethau crefyddol/ digwyddiadau  crefyddol mewn hanes. Mae’n ddefnyddiol i’w ychwanegu at wersi – lle bo’n addas.

Victoria & Albert Museum
Yr V & A yw’r casgliad mwyaf o gelfyddyd gymhwysol ac addurnol yn y byd. Maent wrthi’n datblygu adnodd digidol ar gyfer athrawon gyda rhaglenni gwaith [ yn cynnwys gwybodaeth gefnogol a thaflenni gwaith] yn gysylltiedig â’r Maes Llafur Cenedlaethol [fersiwn Saesneg]

Cymru – Adeiladu Cenedl
Mewn ugain pennod ar gyfer y we, gellwch ddilyn cwrs hanes Cymru o’r Rhufeiniaid hyd at y Datganoli. Sgrifennwyd gan yr hanesydd amlwg , Dr John Davies.

World History: HyperHistory on Line
Rhan o weithgaredd Discovery Channel. Mae’n cynnwys gweithgaredd mewn codau lliw, ond yn fwy diddorol mae’n cynnig llinellau amser y gellir eu chwilio, a’r rhain yn eu tro yn cynnig gwybodaeth destunol am yr eitem arbennig sy’n gymorth i’r chwilio ac yn cysylltu â  safleoedd perthnasol eraill. Mae hwn yn safle diddorol sy’n addysgiadol ac yn hawdd i lywio drwyddo, yn arbennig o’r ‘llinellau amser’.

World Wide Web Virtual Library
Mae’r safle yn enfawr a chymhleth iawn. Mae’n cynnig cysylltiad â nifer fawr iawn o safleoedd perthnasol, yn bennaf mewn Prifysgolion. Mae chwilio yn tueddu i fod yn araf ac fe ellid dadlau bod hyn yn wendid. Eto mae chwilio manwl yn talu ffordd, ond mae iddo ogwydd ymchwil/Addysg Uwch.