Ffynonellau Cwricwlwm > Dinasyddiaeth ac ABCh

Dinasyddiaeth ac ABCh

Cyngor Addysg mewn Dinasyddiaeth Byd – Cymru
Safle elusen addysgol yw hwn yn gweithio gyda phobl ifanc er mwyn hyrwyddo dealltwriaeth o’r byd cyfoes. Mae’n cynnig cefnogaeth ar gyfer dinasyddiaeth yng Nghymru ar lefel leol, genedlaethol a byd-eang.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Swyddfa'r Llywydd) wedi cynhyrchu pecynnau dysgu ar gyfer ysgolion Cynradd ac Uwchradd. Mae'r pecynnau yn cynnwys gwahanol weithgareddau sy'n addysgu pobl ifanc am Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r pecynnau’n cynnwys agweddau ar y Cwricwlwm Cenedlaethol a'r Fframwaith ABCh a gellir eu llwytho o'r wefan hon. Mae'r wefan hefyd yn cynnwys cynlluniau gwaith a gwybodaeth am ymweliadau addysgol â'r Cynulliad sy'n cael eu cynllunio a'u cynnal gan athrawon proffesiynol.