Cyrff Addysgol yng Nghymru

Cyrff Addysgol yng Nghymru

Canolfan Addysg Byd
Safwe dwyieithog sydd yn hyrwyddo ac yn cefnogi addysg ar gyfer Dinasyddiaeth Fyd-Eang yng Nghymru.

Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru (CBAC)
Mae’r wefan hon yn darparu manylion am arholiadau CBAC yn cynnwys meysydd llafur, deunyddiau cefnogaeth i athro, amserlenni a dogfennau swyddogol eraill. Ceir hefyd wybodaeth ar raglen hyfforddiant HMS CBAC, gweithgareddau Uned Iaith Genedlaethol Cymru, gwasanaethau cefnogi Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, a chatalog ar-lein o gyhoeddiadau CBAC.

Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg ac Hyfforddiant  (ELWa)  
Mae’r wefan yn cynnig gwybodaeth ar gyfer addysg ac hyfforddiant ôl-16 yng Nghymru ar gyfer unigolion, busnesau, cymunedau a darparwyr ymchwil. Mae adrannau gwahanol ar gael ar gyfer blynyddoedd Dosbarth Chwech a sefydliadau AB/AU.

Swyddfa Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg ac Hyfforddiant (Estyn)  
Dyma safle swyddogol Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg ac  Hyfforddiant yng Nghymru. Mae’n darparu mynediad i drefniadau arolygu cyfredol, cyfundrefnau arolygu ysgolion ac adroddiadau arolygu.

Bwrdd yr Iaith Gymraeg  
Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn gorff statudol sy’n gyfrifol am hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r iaith Gymraeg. Mae ei wefan yn cynnwys gwybodaeth gefndirol a manylion am weithgareddau cyfredol, dogfennau, cysylltiadau ac adnoddau.

Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru
Mae gwefan swyddogol CACC yn darparu gwybodaeth gefndirol, gwybodaeth a chynghorion ar ddatblygiad a safonau proffesiynol ynghyd â dogfennau allweddol y gellir eu lawrlwytho.

Mae Bagloriaeth Cymru
Fe welwch ar y wefan bresennol wybodaeth gyffredinol a chwestiynau a holwyd yn aml am CBC, ynghyd â chefndir y Tim Project a'r Canolfannau Peilot. Fe ddatblygir y wefan newydd ar hyn o bryd, ac fe'i lawnsir ym Medi 2003.

Canolfan y Santes Fair
Sylfaenwyd Canolfan y Santes Fair yn 2008 i hyrwyddo rhagoriaeth mewn addysg grefyddol yng Nghymru a chynrychioli Cymru yn y maes hwn yn rhyngwladol yn ogystal ag ym Mhrydain. Mae maesydd arbenigedd yn cynnwys datblygiad cwricwlaidd, ymchwil, adnoddau, a chymwysterau credydol.