Y Gynhadledd Addysgeg Genedlaethol 2008
Addysgeg - Yr arfer o addysgu er mwyn cynorthwyo dysgu
Cynhaliwyd Cynhadledd Addysgeg Genedlaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar 13eg - 15fed Mai 2008.
Diben y gynhadledd oedd rhoi'r cyfle i ymarferwyr addysgol drafod a datblygu'r dysgu a'r addysgu mwyaf effeithiol er mwyn gwella canlyniadau dysgu a lles pob dysgwr yng Nghymru.
Roedd y gynhadledd yn gyfle unigryw i gynadleddwyr weithio gydag academyddion rhyngwladol blaenllaw megis Dr Art Costa, Graham Watts, yr Athro Carol McGuinness a'r Athro Stephen Gorard. Gwnaeth y digwyddiad hefyd ddathlu gwaith ymarferwyr o Gymru gyda chyfraniadau gan AALl Ceredigion; Coleg Iâl, Wrecsam; y secondeion addysgeg sy'n gweithio gyda APADGOS ar hyn o bryd; a'r Athro David Egan o'r Sefydliad Ymchwil Addysg Gymhwysol newydd yn UWIC.
Yn 2009 caiff y Gynhadledd Addysgeg Genedlaethol ei chynnal yn Venue Cymru, Llandudno ar 5ed - 8fed Mai 2009.
Gwe-ddarllediadau:
Yr Athro Stephen Gorard - Gwethuso Effeithiol
Dr Art Costa - Pam addysgu arferion y meddwl: Rhai rhesymau pwysig eraill
Gary Brace - Diwedd y Gynhadledd
Cyflwyniadau:
Y Gynhadledd Addysgeg Genedlaethol : 13 - 15 Mai 2008
Gwerthuso Effeithiol - Yr Athro Stephen Gorard
Addysgu sgiliau meddwl mewn dosbarthidau ysgol gynradd - Yr Athro Carol McGuinness
Datblygu Cymuned sy’n Dysgu drwy Goetsio - AALl Ceredigion LEA
Pam addysgu arferion y meddwl - Diwrnod 1 - Dr Art Costa
Pam addysgu arferion y meddwl - Diwrnod 2 - Dr Art Costa
Fframwaith Addysgeg - amcanion
Fframwaith Addysgeg - cwestiynau
Dogfen: