ContinYou

ContinYou

continYou

Mae ContinYou, elusen gofrestredig, yn un o brif sefydliadau dysgu cymunedol yn y DU ac mae’n credu yng ngrym dysgu fel dull o gyflawni cyfiawnder cymdeithasol. ContinYou Cymru yw cyfarwyddiaeth ContinYou a leolir yng Nghymru.

Mae gennym brofiad eang ym maes dysgu allan o oriau ysgol.  Darparwn wasanaeth cefnogi ar gyfer dysgu allan o oriau ysgol diolch i nawdd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.  Mae’r gwasanaeth hwn yn cynnwys cynhyrchu adnoddau i helpu pawb sy’n ymwneud â datblygu a chyflwyno rhaglenni a chyfloedd dysgu tu allan o oriau ysgol.

Rydym bellach hefyd yn darparu ‘cefnogi ysgolion bro’, gwasanaeth i bob AALl, ar y cyd â’r Gymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg.  Mae dysgu tu allan o oriau ysgol yn rhan allweddol o ddatblygiad ysgolion bro.

Rydym wrth ein bodd bod Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Cymru yn darparu ein hadnoddau Extra Time yma.

Bydd rhagor o adnoddau ar Sum It! (clybiau mathemateg), cefnogi gwaith cartref, clybiau darllen ac OwnZone (gofal, dysgu allan o oriau ysgol a chefnogaeth fugeiliol i ddisgyblion oedran ysgol uwchradd) ar gael yn fuan.  Bydd cod ymarfer newydd, diwygiedig ar gyfer dysgu allan o oriau ysgol ar gael ym mis Mawrth.

Am ragor o wybodaeth am ContinYou a ContinYou Cymru ewch i’n gwefan.

Adnoddau ar gael:

OwnZone - Arweinlyfr am ofal ar ôl yr ysgol a chlybiau dysgu am fyfyriwr Cyfnod Allweddol 3

Dysgu allan-o-oriau-ysgol - Côd ymarfer ar gyfer.

O’r Cynradd i’r Uwchradd – Symud ymlaen: dysgu allan o oriau ysgol a throsglwyddiad
Datblygwyd yr adnodd hwn o ganlyniad i waith peilot, dan nawdd LlCC, i ddatblygu rhaglenni sy’n cefnogi plant wrth drosglwyddo o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd.

Clwb Brecwast Plws – Sut i sefydlu eich clwb brecwast eich hun a’i gadw i fynd.

Cwciwch-o! - Cynhyrchwyd canllaw ar sefydlu a rhedeg clwb coginio gyda chefnogaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Sut i'w wneud e - Arweinlyfr am gybliau darllen

Cysylltwch â ni |  Hygyrchedd |  Adborth |  Cymorth |  Map o'r wefan |  Ymwadiad