Arloesedd 2011 - Innovation 2011
Arloesedd 2011

Arloesedd 2011

Mae’r achlysur hwn yn ddigwyddiad o fri sy’n rhoi llwyfan i’r gwaith project mwyaf arloesol yn y Safon Uwch a’r TGAU mewn Dylunio a Thechnoleg mewn arddangosfa a chystadleuaeth. Bydd yrarddangosfa’n cael ei chynnal yng ngogledd a de Cymru yn ystod tymor yr Hydref.

Pwrpas y digwyddiad yw annog pobl ifanc i fod yn arloesol yn dechnolegol ac i werthfawrogi pwysigrwydd dylunio a thechnoleg. Mae hyn yn hollbwysig i ffyniant Cymru yn y dyfodol fel y nodir ym mholisi Gwyddoniaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Bydd yr arddangosfa’n rhoi’r cyfle i ddiwydiannwyr, athrawon a myfyrwyr weld peth o waith gorau myfyrwyr 16-18 mlwydd oed yng Nghymru. Mae’r holl ganolfannau yng Nghymru sy’n cynnig ymgeiswyr am arholiadau CBAC mewn Dylunio a Thechnoleg yn gymwys yn awtomatig. Bydd safonwyr ymweld ac athrawon yn enwebu projectau i’w cynnwys yn yr arddangosfa. Bydd y digwyddiad yn arddangos 80 o brojectau U2, UG a TGAU mwyaf arloesol y myfyrwyr. Bydd tim o feirniaid o fri yn dethol projectau Safon Uwch, Safon UG a TGAU buddugol ac yn dewis prif enillydd o’r tri chategori.

Hefyd, bydd gwobrau am y project sy’n arddangos y potensial mwyaf wrth ddiogelu Eiddo Deallusol; Creadigrwydd; Defnyddio CAD/CAM; a Chynaliadwyedd.

Bydd Mr Carwyn Jones, AC, Prif Weinidog Cymru’n cyhoeddi’r enillwyr ar ddydd Llun 10fed Hydref am 12.45pm

Os hoffai Athrawon ddod i’r sesiynau HMS, rhaid iddynt gadw lle gyda CBAC - Ffon 02920 265018 neu 265024

Bydd myfyrwyr hefyd yn gallu mynychu sgyrsiau byr ar agweddau pwysig ar eu cyrsiau a bydd y rhai Safon Uwch yn gweld cwestiynau wedi’u marcio o gyn-bapurau arholiad.

Gwahoddir ysgolion a cholegau i ddod a myfyrwyr o flynyddoedd 10, 11, 12 a 13 yn unig, i edrych ar yr arddangosfa ac i fynychu’r sgyrsiau (nid oes angen cadw lle).

Canllaw Myfyriwr

Venue Cymru Llandudno - Manylion presenoldeb
Dydd Llun Medi 26ain 10am – 5pm
Dydd Mawrth Medi 27ain 9am – 3pm

Stadiwm SWALEC, Gerddi Soffia, Caerdydd - Manylion presenoldeb
Dydd Llun Hydref 10fed 9am – 5pm
Dydd Mawrth Hydref 11eg 9am – 3pm