#
Arfer da > Darganfod adnoddau > Pwy oedd y prif gangsters?

Pwy oedd y prif gangsters?

Prif Ffocysau: DMaAGD,
Ffocysau Pellach: Cyflawniad Bechgyn, Asesiad Cyfoedion, Dysgu wedi’i Bersonoli, Cynhwysol,

Sut y defnyddiwyd yr adnodd?

Adnodd cychwynnol i astudiaeth ar dwf y gangsters yn America yn ystod y 1920au.

Cafodd yr adnodd ei ymgorffori i PowerPoint roeddwn wedi ei greu eisoes. Defnyddiwyd y gweithgaredd i ganiatáu i ddisgyblion gydweithio i ddatrys pa ddatganiadau oedd yn cydweddu â phob gangster. Cafwyd bod yr adnoddau yn ffordd dda o gael disgyblion i ymwneud â deunyddiau’r wers ac o ennyn diddordeb yn yr hyn oedd yn mynd i gael ei astudio yn y wers.

Roedd hwn yn weithgaredd roedd y bechgyn yn hynod awyddus i ymwneud ag ef gan ei fod yn caniatáu i ddisgyblion ddod at y bwrdd gwyn rhyngweithiol i gyflawni amryfal weithgareddau. Cynyddwyd cyfranogiad y bechgyn hefyd oherwydd roedd y gweithgaredd yn annog dull ‘ dim ateb anghywir’ gan nad oedd angen i’r disgyblion gael unrhyw wybodaeth flaenorol, tra bod y sbardun yn y gweithgareddau yn caniatáu i atebion a roddwyd gael eu hadolygu a’u newid. Cafwyd cymorth i ddarganfod yr ateb cywir drwy gynnwys cliwiau i’r atebion.

Roedd y disgyblion wedyn yn astudio twf y gangsters gan ddefnyddio gwerslyfr ynghyd â PowerPoint roeddwn wedi’i greu.

Gosodwyd gwaith cartref fel gweithgaredd dilynol a rhoddwyd cyfle i’r disgyblion ehangu eu gwybodaeth drwy gyflawni ymchwil pellach. Fe’u hanogwyd hefyd i gyflwyno’r gwaith hwn gan ddefnyddio TGCh.

Defnyddiwyd y gweithgaredd yn y wers ganlynol fel gweithgaredd cychwynnol i ganiatáu i ddisgyblion adfyfyrio ar ddysgu blaenorol. Yn ddiweddarach fe’i lwythwyd i amgylchfyd dysgu rhithiol yr ysgol er mwyn galluogi’r disgyblion ddefnyddio’r gweithgaredd at bwrpas adolygu.

Effaith a Chanlyniad

  • Fe wnaeth y gweithgaredd hwn gynorthwyo i feithrin datblygiad sgiliau meddwl a sgiliau dysgu ehangach disgyblion o bob gallu oherwydd roedd pob disgybl yn gallu ymwneud â’r gwaith gan nad oedd angen gwybodaeth flaenorol. Roedd angen meddwl i gysylltu cliwiau a’r datganiad cywir.
  • Cafwyd gwell canolbwyntio ac ymrwymiad o du’r disgyblion o ddefnyddio’r gweithgaredd hwn ac felly arweiniodd hyn at ddatblygu sgiliau meddwl a sgiliau datrys problemau.
  • Roedd defnyddio adnoddau gweledol mwy diddorol a defnyddio adnoddau rhyngweithiol yn annog mwy o gyfranogiad o ran y bechgyn yn y dosbarth, yn enwedig oherwydd eu bod yn gallu dod at y bwrdd. Talodd hwn hefyd ar ei ganfed gan fod ansawdd y gwaith a gynhyrchwyd gan rai o’r bechgyn wedi gwella, tra eu bod yn llawer mwy parod i ymwneud â’r broses adolygu yn y wers ganlynol.
  • Cafwyd gwelliant o ran cynwysoldeb gan fod y disgybl wrth y bwrdd yn dibynnu ar ddisgyblion eraill am gymorth i gynhyrchu’r atebion cywir, tra bod disgyblion yn cael eu hannog i gael barn cymaint o ddisgyblion â phosibl.
  • Roedd disgyblion oedd ag anghenion arbennig ac anghenion cymhleth yn ymwneud yn weithredol yn ystod y gweithgaredd ond hefyd yn ystod cwblhau gwaith dosbarth mwy confensiynol.
  • Nid oedd angen addasu’r gweithgaredd ac felly roedd ar gael i staff eraill o fewn yr adran nad oedd ganddynt afael mor gadarn ar TGCh.
  • Rhoddwyd hwb i ddysgu annibynnol gan y cyfleuster o ran cyrchu adnoddau a deunyddiau o gartref drwy gyfrwng yr amgylchfyd dysgu rhithiol.
  • Roedd disgyblion yn gwrando’n fwy astud ar eu cyfoedion gan fod cydweithrediad a chefnogaeth yn cael eu hannog pan oedd disgyblion yn ymgymryd â gweithgareddau bwrdd gwyn rhyngweithiol. Roedd disgyblion yn gofyn am gyngor eu cyfoedion ac yn weithredol yn ceisio barn cymaint o ddisgyblion â phosibl. Roedd disgyblion yn gallu cymryd eu tro yn haws ac roedd y rhai wrth y bwrdd gwyn rhyngweithiol yn mwynhau cymryd arnynt rôl yr athro. Roedd disgyblion yn amlygu mwy o barch at eraill ac roeddent yn barod i aros eu tro wrth ateb cwestiynau o wybod y byddai rhywun yn ceisio eu barn.

Adborth gan y Dysgwr

'Fe wnes i fwynhau’r ffaith ein bod yn gallu mynd at y bwrdd a gweithredu fel yr athro.’

‘Roeddwn wrth fy modd gyda’r ffaith ein bod i gyd ar yr un lefel gan mai ychydig iawn a wyddai’r rhan fwyaf ohonom am y gangsters cyn y gweithgaredd ond yna roeddem yn gallu dysgu gyda’n gilydd.’

‘Gwellodd fy nealltwriaeth yn fawr gan fy mod yn gallu defnyddio’r wybodaeth yn fy ngwaith ysgrifenedig.’

Adnoddau Eraill

Gwerslyfr Ysgol

Gwersi a Ddysgwyd

Gallai gweithgaredd fel hwn gael ei addasu i gyflwyno testunau mwy cymhleth. Gallai gweithgaredd a addaswyd gael ei gyflwyno i bob dosbarth yng Nghyfnod Allweddol 3, 4 neu 5.