#
Arfer da > Darganfod adnoddau > Dyna beth yw pentwr o sbwriel!

Dyna beth yw pentwr o sbwriel!

Prif Ffocysau: DMaAGD, Sgiliau Llythrennedd, Arfer myfyriol,
Ffocysau Pellach: Dysgu Estynedig, Sgiliau Hanfodol Cymru , Cwricwlwm Cymreig , Sgiliau Rhifedd,

Sut y defnyddiwyd yr adnodd?

Adnodd ar gyfer dosbarth gallu cymysg blwyddyn 5 ar gyfer gweithgareddau gwyddonol/eco’r a chymariaethau rhwng arferion yng Nghymru ac India.

Gweithgaredd 1

Arsylwi ar lun o Sbwriel gan drafod:

  • Llun o beth yw e?
  • Pa fath o bethau y gallan nhw ei weld?

Gweithgaredd 2

Gwrando ar gân am bwysigrwydd ail-gylchu ac ail-ddefnyddio. Trafod ei neges. Casglu data am arferion ailgylchu a chompostio adre’. Dadansoddi’r canlyniadau.

Gweithgaredd 3

Trafod y symbyliad yng ngweithgaredd cyntaf adnodd GCaD Cymru ‘Dyna beth yw pentwr o sbwriel’. Trafod y cwestiynau heriol mewn grwpiau.

Gweithgaredd 4

Darllen a thrafod yr erthygl papur newydd yn rhan 2 o adnodd GCaD Cymru. Trafod cwestiynau penodol wedi darllen yr erthygl.  

Datblygu eu dealltwriaeth o’r erthygl wrth ddefnyddio’r rhan nesaf yn yr adnodd sef ‘Wynebu’r Canlyniadau’. Trafod cynigion yn y blychau gwaelod, ac yna eu gosod yn nhrefn pwysigrwydd.

Gweithgaredd 5:

Cynnig syniadau posib i ddatrys problem tomenni sbwriel.

Defnyddio adnodd GCaD Cymru ‘Casglu Sbwriel bob Pythefnos’ fel model i restru rhesymau cryf a gwan. Adeiladu dadl gref ynglyn â delio gyda gwastraff.

Adolygu targedau.

Effaith a Chanlyniad

Roedd yr adnodd yn un gwerthfawr wrth ddatblygu sgiliau meddwl yn y dosbarth.

Roedd y gweithgareddau’n cynnwys cwestiynu agored i herio’r disgyblion i feddwl, cynnig syniadau ac i ymateb i syniadau disgyblion eraill. Roeddent yn cyfrannu at drafodaeth yn hyderus ac yn gwrando a dysgu wrth ei gilydd. Wrth rannu targedau’n gyson drwy’r wers a rhoi amser i’w trafod ar ddiwedd gwers mae’n amlygu pa mor hapus maen nhw i siarad am eu gwaith ac yn barod i gynnig ffyrdd o wella’u dealltwriaeth. Roedd trafod y targedau’n gyfle gwych fel athrawes i asesu lle mae pawb arni ac yn arweiniad i gynllunio ar gyfer y wers nesaf. Gan ei fod yn bwnc cyfredol ac yn real roedd pob un disgybl yn medru ymateb i’r tasgau.

Datblygwyd sgiliau llythrennedd yn gyson. Roedd cyfle i ddatblygu gwybodaeth a syniadau wrth wrando ar gyfraniadau disgyblion eraill ac ystyried eu safbwyntiau. Roedd y gweithgaredd wedi cynnig y cyfle iddynt nodi cryfderau a gwendidau syniadau, adnabod negeseuon pwysig a chwarae rôl. Cawson nhw’r cyfle i gyfathrebu’n glir i gynulleidfa gan ddefnyddio geirfa addas a’r geiriau allweddol a gyflwynwyd yn y wers. Wrth ddarllen yr erthygl a’r syniadau, defnyddion nhw strategaethau darllen i adnabod pwyntiau allweddol yn yr erthygl er mwyn gallu trafod y testun fel parau.

I ddatblygu rhifedd defnyddiwyd canrannau mewn cyd-destun ymarferol yn ogystal â chasglu data’n systematig a deall y data ar ffurf graff syml. Defnyddiwyd iaith fathemategol yn naturiol.

Rhoddwyd ffocws i’r Cwricwlwm Cymreig gan fod y broblem yn gyd-destun Cymreig a chyfeiriwyd at rôl y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd.

Rhoddwyd cyfle i ddysgu estynedig wrth i rai disgyblion ddod â gwybodaeth gyffredinol dda i drafodaethau’r dosbarth, rhoddwyd cyfle iddynt weithio’n fwy annibynnol ac i chwilio am ystyron geiriau eu hunain.

Rhoddwyd sylw i’r sgiliau allweddol trwy gynnig cyfleoedd gwerthfawr i gyfathrebu, datblygu rhif, gweithio fel parau a grwpiau er mwyn cyd-weithio, a gwella’u dysgu wrth werthuso’u gwaith. Roedd cyfle i ddatrys problem hefyd wrth feddwl am syniadau gwreiddiol ac adeiladu dadl. Defnyddiwyd y bwrdd gwyn rhyngweithiol a’r cyfrifiaduron yn gyson i ddatblygu sgiliau TGCh.

Adborth gan y Dysgwr

‘Mae’r gwaith yma wedi gwneud i fi feddwl fwy am wastraff yn ein ty ni a bod rhaid i bawb adre’ wneud ymdrech i ail-gylchu.’

‘Roedd y gwaith yma wedi gwneud i fi feddwl tipyn am y dyfodol a bod rhaid i bawb chwarae eu rhan ar draws y byd i ddelio â gwastraff.’

Adnoddau Eraill

Llun ‘Sbwriel’ dogfen ac mewn Flipchart

Flip chart ‘Arolwg yn y Cartref’

Erthygl (Fersiwn Syml)

Copi o’r adroddiad a chwestiynau i’w trafod

Pyramid ‘Wynebu’r Canlyniadau’ mewn Pwerbwynt

Sylwadau Casglu Sbwriel bob Pythefnos

Llyfryn Geirfa

Gwersi a Ddysgwyd

Roedd angen strwythuro iaith adeiladu dadl rhai disgyblion wrth roi cardiau fflach iddynt.

Gellid fod wedi defnyddio’r adnodd i greu gweithgareddau ffocws amrywiol o gwmpas y dosbarth dros gyfres o ddiwrnodau.