
Arfer da > Darganfod adnoddau > Yr Wyddor Gymraeg
Yr Wyddor Gymraeg
Prif Ffocysau: Cwricwlwm Cymreig ,
Ffocysau Pellach: Cyflawniad Bechgyn, Sgiliau Llythrennedd, Dysgu wedi’i Bersonoli, Dwyieithrwydd,
Ffocysau Pellach: Cyflawniad Bechgyn, Sgiliau Llythrennedd, Dysgu wedi’i Bersonoli, Dwyieithrwydd,
Sut y defnyddiwyd yr adnodd?
Cafodd yr adnodd ei ddefnyddio gan dri dosbarth ail iaith ym Mlwyddyn 5 fel adnodd adolygu ac i rai fel cyflwyniad i’r Wyddor Gymraeg.
- Fe wnaeth disgyblion Blwyddyn 5 fwynhau defnyddio adnodd yr Wyddor Gymraeg gan GCaD. O ran cyflawniad bechgyn, fe wnaethon nhw fwynhau natur yr adnodd ac roeddent yn hoffi eu bod yn gallu rheoli cyflymdra’r gweithgaredd wrth weithio ar gyfrifiaduron personol unigol.
- Cafodd disgyblion eu cyflwyno i’r adnodd fel dosbarth gan ddefnyddio bwrdd gwyn rhyngweithiol.
- Yna yn eu parau partneriaid meddwl, fe ddefnyddion nhw’r adnodd yn yr ystafelloedd TGCh gyda ffonau pen i ymarfer y seiniau.
- Cafwyd bod hyn yn ddefnyddiol iawn wrth addysgu ynganu llythrennau Cymraeg yr wyddor yn gywir. Bu disgyblion yn gofyn am gyngor eu cyfoedion yn ogystal â defnyddio’r adnodd yn rhyngweithiol.
- Mae hefyd yn ddiddorol i’r plant weld yr holl lythrennau ar unwaith gan nad oedd rhai disgyblion yn ymwybodol o’r gwahaniaethau rhwng yr Wyddor Gymraeg a’r Wyddor Saesneg.
- Roedd yr ail weithgaredd, oedd yn dangos gair i bob llythyren, hefyd yn ddefnyddiol ac ysbrydolodd y gweithgaredd hwn y plant i greu eu geiriadur bwyd eu hunain yn y Gymraeg. Roedd y disgyblion yn llawer mwy hyderus nag mewn ceisiadau blaenorol i gyflawni’r gweithgaredd ac fe ddarllenon nhw eu gwaith i’w partneriaid a hefyd cyflwyno eu gwaith i’r dosbarth a pheth i’r grŵp blwyddyn cyfan.
Effaith a Chanlyniad
- Y prif ddeilliant oedd gwelliant amlwg wrth ynganu’r wyddor Gymraeg a seiniau cysylltiedig.
- Oherwydd bod disgyblion yn gallu troi ’nôl a gwrando dro ar ôl tro ar seiniau unigol, roedden nhw’n gallu canolbwyntio ar eu hanghenion dysgu eu hunain.
- Roedd canolbwyntio’r plant yn dda iawn, er iddo gael ei lunio fel gweithgaredd CA1; roedd hi’n fuddiol ei ddefnyddio gyda dysgwyr ail iaith CA2.
- Roedd bechgyn yn ymddangos fel petaent yn canolbwyntio’n amlwg ar y gweithgaredd oherwydd eu bod yn gallu rheoli cyflymdra’r gweithgaredd a’u bod yn mwynhau’r nodweddion oedd yn gysylltiedig â’r adnodd. Yn weledol, mae’r adnodd yn ddeniadol i’r disgyblion.
- Roedd y tri athro oedd yn ymwneud â’r adnodd, pob un ohonynt â lefelau amrywiol o ran sgiliau TGCh, yn ei gael yn hawdd i’w ddefnyddio. Nid oedd dau ohonynt yn gallu siarad Cymraeg ac roeddent yn gwerthfawrogi clywed geirfa’r adnodd eu hunain.
- Fe wnaeth plant oedd ag anghenion dysgu ychwanegol ymdopi’n dda iawn â’r gweithgaredd, gyda phwy bynnag roeddent yn cael eu partneru.
Adborth gan y Dysgwr
‘Fe helpodd ni i ddysgu’r Wyddor Gymraeg yn gywir.’
‘Fe wnes i fwynhau defnyddio’r cyfrifiaduron i wrando ar y llythrennau eto fel y gallwn eu hymarfer nhw.’
‘Fe helpodd fi i ddweud y geiriau’n gywir ar gyfer fy Nyddiadur Bwyd.’
Adnoddau Eraill
Cynllun Cymraeg y Sir