#
Arfer da > Darganfod adnoddau > Profi, Methu a Dyfeisgarwch

Profi, Methu a Dyfeisgarwch

Prif Ffocysau: Asesiad Cyfoedion,
Ffocysau Pellach: Sgiliau Llythrennedd, Dysgu wedi’i Bersonoli,

Sut y defnyddiwyd yr adnodd?

Defnyddiodd y gweithgaredd hwn nifer o adnoddau CA3 ar wefan GCaD Cymru i ddysgu elfennau cerddoriaeth i ddisgyblion blwyddyn 7.

Bu i bob un gyrraedd lefel gyfan yn uwch na'r disgwyl o ganlyniad i adnoddau am ddim GCaD a'r dechnoleg a ddefnyddiwyd.

Roedd y disgyblion yn gyfrifol am eu dysgu eu hunain. Bu iddynt hefyd ddefnyddio Microsoft Songsmith i'w helpu i gyfansoddi eu caneuon. Un maen prawf ar gyfer y plant oedd cynhyrchu gweithgareddau adolygu fyddai wedi galluogi unrhyw un fyddai wirioneddol wedi eu defnyddio i gyrraedd lefel dda yn y prawf diwedd blwyddyn.

Effaith a Chanlyniad

  • Roedd yn amlwg bod disgyblion yn dangos mwy o ddiddordeb oherwydd eu bod yn teimlo eu bod yn gwneud rhywbeth gwerth chweil trwy gynhyrchu eu cyfansoddiadau. Roedd rhai o'r disgyblion hyn wedi cael eu dadrithio gymaint fel bod dau ohonynt newydd ddychwelyd i'r ysgol yn dilyn gwaharddiad, (y ddau fachgen yn y fideo yn defnyddio'r Kinect). Roeddent yn gweithio gartref yr un mor galed ag yr oeddent yn gweithio yn yr ysgol. Roedd y dosbarth yn barhaus ar y cyfrifiaduron yn creu eu cyfansoddiadau. Roeddent yn gweld bod y cysyniad o ddefnyddio kinect i reoli adnoddau GCaD yn rhywbeth cyffrous. Roedd yn rhoi'r waw ffactor iddo.
  • Roedd y disgyblion yn dangos eu bod yn gallu gweithio'n rhyngddibynol ac yn dangos elfen o drefnu a chydweithio nad oeddwn wedi ei ddisgwyl o'r blaen gyda'r dosbarth hwn.
  • Roedd disgyblion a rhieni yn ymwneud mwy â'u haddysg ac yn cymryd cyfrifoldeb am ddysgu eraill. Mewn gwirionedd, bu iddynt gynhyrchu adnodd oedd yn effeithiol iawn fel offeryn adolygu, hyd yn oed pan yr oedd yn cael ei ddefnyddio gan ddisgyblion o ddosbarthiadau eraill

Adborth gan y Dysgwr

Roeddwn wrth fy modd yn rheoli fy nysgu fy hun. Roeddem yn gallu dysgu am dechnoleg newydd a'r ffyrdd gorau o'i defnyddio i'n helpu ni ddeall.”

Roeddwn wrth fy modd gyda sut yr oeddem yn rheoli'r sgrin gyda kinect.”

Adnoddau Eraill

Rheolwr Kinect, addasydd USB ar gyfer Kinect,

Gwersi a Ddysgwyd

Y gromlin ddysgu fwyaf arwyddocaol i mi mae'n debyg oedd trosglwyddo rheolaeth o'r amgylchedd dysgu i'r plant a chymryd y "risg" o adael iddyn nhw wneud y dysgu. Roeddwn yno fel Hwylusydd dysgu, nid fel Cyfarwyddwr dysgu. Roedd raid i mi ddysgu camu’n ôl a gadael i'r plant gymryd rhan mewn trafodaethau grwp, cynllunio ar y cyd a datblygu adnoddau dysgu. Mewn gair, roedd y rhan fwyaf o'r dysgu'n digwydd trwy weithgareddau deialog dan arweiniad y disgyblion. Hefyd, roedd y rhan fwyaf o'r mewnbwn yn dod gan ddysgwyr yn dilyn recordiad cyflwyno byr.  Y prif swyddogaethau oedd ateb cwestiynau, gwirio gwaith y disgyblion pan oeddent eisiau cefnogaeth. Roedd yn rhaid i mi ddatrys ychydig o broblemau technegol a gofyn cwestiynau oedd yn annog ac yn procio.