
Trosglwyddo Ynni
Ffocysau Pellach: DMaAGD, Asesiad Cyfoedion,
Sut y defnyddiwyd yr adnodd?
Defnyddiodd disgyblion blwyddyn 8 yr adnodd rhyngweithiol ar Weoedd Bwyd o wefan GCaD Cymru i ddiwygio trosglwyddo ynni mewn pethau byw.
Yna, gwnaethant ddefnyddio Movie Maker i greu ffilmiau stop-symudiadau wedi’u hanimeiddio i gyfleu’r hyn roeddent wedi’i ddysgu. Cafodd y fideos eu llwytho i’n gwefan Scienceatcroesy, fel y gallai eu rhieni eu hadolygu.
Effaith a Chanlyniad
- Gwnaeth disgyblion fwynhau’r gweithgaredd a deallasant sut y câi ynni ei drosglwyddo.
- Roedd dysgwyr yn gallu rhoi adborth adeiladol i’w cyfoedion.
- Cafodd fideos eu llwytho i YouTube a’u trafod gyda rhieni yn ystod y noson rieni.
- Gwnaeth sgiliau TGCh disgyblion wella ac roeddent yn gallu defnyddio offer amlgyfrwng yn effeithiol.
- Mae’r amrediad sgiliau cyfathrebu ein dysgwyr wedi cynyddu ac erbyn hyn maent yn gwybod eu bod yn gallu cyflwyno drwy amrywiaeth ehangach o offer.
Adborth gan y Dysgwr
Waw, mae hyn yn wych! Roeddwn yn hoffi’r un lle cafodd y ddafad ei bwyta!
Gawn ni wneud hyn eto?
Adnoddau Eraill
Microsoft MovieMaker.
Gwersi a Ddysgwyd
Gwnaeth y prosiect hwn fy ngalluogi i weld ochr fwy creadigol fy nisgyblion ac roedd lefel eu diddordeb yn uchel iawn, sydd wedi fy ysgogi i ddefnyddio Movie Maker gyda grwpiau eraill. Roeddwn yn gallu gweithredu’n fwy fel hwylusydd dosbarth a chefais ychydig o gyngor ar Movie Maker gan fy mhlant, e.e. golygu trawsnewidiadau ac ati.