
Capsiwl Amser
Ffocysau Pellach: DMaAGD, Dysgu Estynedig, Sgiliau Llythrennedd, Sgiliau Rhifedd,
Sut y defnyddiwyd yr adnodd?
Mae’r adnodd sgiliau meddwl hwn yn gofyn i ddisgyblion ddechrau holi ynghylch stereoteipiau yng Nghymru, trafod nodweddion cadarnhaol a negyddol eu hardal leol a datblygu syniadau ar gyfer y dyfodol.
Cafodd y disgyblion gyfle i edrych ar, a deall beth yw hunaniaeth a diwylliant ardal a sut gellid disgrifio eu hardal leol a Chymru yn yr unfed ganrif ar hugain.
Mae sawl gweithgaredd sgiliau meddwl ar gyfer trafodaethau partner, dosbarth neu grwp.
Roedd angen bwrdd gwyn rhyngweithiol i gyflwyno’r gwahanol dasgau o fewn yr adnodd. Cafwyd cyfleoedd i weithio oddi wrth y bwrdd lle cafodd y plant eu hannog i drafod gyda phartner neu o fewn grwp.
Mae’r adnodd hwn yn ymdrin ag agweddau ar themâu Hunaniaeth a Diwylliant, yr Amgylchedd Naturiol a Dewisiadau a Phenderfyniadau mewn ADCDFE.
Effaith a Chanlyniad
Gwelais, trwy amrywio’r dull ar gyfer fy ngwersi trwy ddefnyddio TGCh fel offeryn, fod mwy o ddisgyblion yn cymryd rhan weithredol yn y gwersi trwy nifer o weithgareddau meddwl/ymarferol heriol yn yr adnodd.
Canfûm fod y plant yn ymgysylltu ac yn frwdfrydig yn ystod y wers a’u bod yn awyddus i ymchwilio i’r testun a astudiwyd.
Yn ogystal â brwdfrydedd cynyddol, teimlais fod y disgyblion yn cymryd rhan mewn nifer o dasgau unigol/partner a dosbarth a oedd yn herio eu meddyliau a’u gwybodaeth gychwynnol am Gymru a’r ardal leol.
Trwy edrych ar stereoteipiau Cymru, edrych ar hunaniaeth a diwylliant yr ardal, teimlaf fod y plant wedi datblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth ymhellach am Gymru a’r ardal leol. Maent hefyd wedi dangos dealltwriaeth ynglyn â’r ffordd y mae barn wedi newid tuag at Gymru yn yr unfed ganrif ar hugain.
Gwersi a Ddysgwyd
Mae galluogi plant i rannu eu syniadau fel grwp yn arwain at ddealltwriaeth well o destun.