#
Arfer da > Darganfod adnoddau > Taith y Santas

Taith y Santas

Prif Ffocysau: Sgiliau Llythrennedd,
Ffocysau Pellach: DMaAGD, Sgiliau Rhifedd, Cwricwlwm Cymreig , Dysgu wedi’i Bersonoli, Dwyieithrwydd,

Sut y defnyddiwyd yr adnodd?

Rhaid i’r disgyblion chwilio am wybodaeth ar y we am y ras Santas ar draws y byd ac am Ras Santa y Drenewydd yng Nghymru. Mae’r hanes yn ymddangos yn rhifyn Rhagfyr 2009 y cylchgrawn Clician (www.clician.org).

Rhoir tasgau ymarferol i’r disgyblion:

  1. Animeiddio Santas mewn ras
  2. Cynllunio Santas sy’n symud ar gyfer cerdyn Nadolig
    Bydd y gweithgareddau hyn yn cynnig cyfleoedd i’r disgyblion ddatrys problemau, gweithio ar y cyd, hunanasesu
  3. Archwilio nodweddion rhif gyda’r Santas ee eilrifau/odrifau, lluosrifau. Creu sialensiau i’w gilydd i ddyfalu’r patrwm
  4. Defnyddio rhaglen ‘Scratch’ sy’n datblygu sgiliau LOGO disgyblion. (Gellir llwytho’r rhaglen hon i lawr am ddim o’r we). Gellir creu llun eu hunain o Santa neu fwy nag un a’u rhaglenni i ddilyn cyfres o symudiadau.

Yn ogystal mae gêm ‘Taith Siôn Corn’ yn weithgaredd rhyngweithiol lle mae angen i’r disgyblion ail-drefnu’r llythrennau i weld i ba wledydd y mae Santa’n mynd iddynt.

Effaith a Chanlyniad

  • Mae’r gweithgaredd yn cyflwyno’r cysyniad o Ras Santas trwy animeiddiad a throslais. Yna mae’n cyflwyno gwybodaeth am Ras Santas ar draws y byd ac am Ras Santa yn y Drenewydd yng Nghymru.
  • Mae’r gweithgaredd rhyngweithiol yn cael ei chyflwyno i’r dosbarth cyfan er mwyn cyflwyno gwybodaeth a gofyn nifer o gwestiynau agored i herio’r disgyblion i feddwl am bwrpas y ras. Maen nhw’n casglu gwybodaeth am y ras yng Nghymru wrth wrando ac ail-ddarllen a’i gofnodi.
  • Y tasgau’n cynnwys cwestiynau penagored. Defnyddio strategaeth asesu ar gyfer dysgu - dim dwylo i fyny. Mae hwn yn herio pob aelod o’r dosbarth i feddwl yn annibynnol
  • Gweithgaredd yn targedu sgiliau TGCh a llythrennedd . Cyfle i chwilio am wybodaeth ar y we yn darllen i bwrpas ac yn datblygu eu uwch-sgiliau darllen.
  • Sgiliau siarad a gwrando yn ganolog. Mae’r cyfathrebu naturiol rhwng plant wrth weithio ar dasg yn gyfle gwych i asesu gwaith llafar.
  • Disgyblion yn dysgu wrth ei gilydd yn effeithiol yn y dosbarth. Wrth iddyn nhw gwestiynu ei gilydd aeth nifer nôl i wneud ymchwil pellach er mwyn datblygu eu gwaith.
  • Disgyblion wedI ddefnyddio TGCh yn effeithiol wrth ymchwilio ond hefyd wedi dewis rhaglenni’n annibynnol er mwyn cyflwyno’u gwaith i’r dosbarth.
  • Sgiliau asesu grŵp - disgyblion yn adeiladol wrth ymateb i waith eraill ac yn barod i gymharu gwaith ei gilydd.
  • Llawer o gyd-weithio yn arwain at drafodaeth ddefnyddiol am y broses weithio ee trafod anawsterau wrth chwilio ar y we a sut wnaethon nhw ddatrys y problemau hyn
  • Dealltwriaeth ddyfnach o sgiliau darllen wrth chwilio am wybodaeth - dewis geiriau allweddol, cymal mewn brawddeg
  • Cyfle da i ddisgyblion  ddefnyddio gwybodaeth a’i gyflwyno yn eu geiriau eu hunain.

Adborth gan y Dysgwr

Mae wedi bod yn hwyl gwneud gwaith ar y cyfrifadur. Rydw i wedi creu ras Santas fy hunan. Mae’n edrych yn dda.’

‘Doeddwn i ddim yn gwybod fod pobl yn gwneud hyn am achos da. Dw i’n fwy hyderus pan dw i’n chwilio am wybodaeth ar y we.’

Adnoddau Eraill

Taflenni gwaith, y wê, rhaglen animeiddio, rhaglen ‘Scratch’ ar gyfer LOGO.

Gwersi a Ddysgwyd

Trafod iaith ‘Chwilio’ am wybodaeth ar y we. Mae’n anodd dod o hyd i wybodaeth addas. Mae’n well paratoi rhestr o wefanau addas i’r disgyblion.  Mae angen cyfres o wersi i gwblhau’r tasgau hyn gan fod angen cyflwyno rhai rhaglenni gyntaf a modelu enghreifftiau.