
Taith y Goeden Nadolig
Ffocysau Pellach: DMaAGD, Dysgu Estynedig, Asesiad Cyfoedion, Dysgu wedi’i Bersonoli, Arfer myfyriol,
Sut y defnyddiwyd yr adnodd?
Mae’r gweithgaredd yn cyflwyno hanes taith y goeden Nadolig o Norwy i Brydain bob Nadolig sy’n ymddangos yn rhifyn Rhagfyr 2009 y cylchgrawn Clician (www.clician.org). Ceir yma gyfle da i greu tasgau thematig ar draws nifer o bynciau’r Cwricwlwm.
Darllenwyd y testun fel gweithgaredd dosbarth cyfan ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol. Rhoddwyd cyfle i’r disgyblion drafod y cwestiynau agored fesul grwp/par gan droi yn ôl at y bwrdd er mwyn adrodd yn ôl. Defnyddiwyd hwn fel cyfle i atgyfnerthu geirfa i ddisgrifio gwahanol fathau o goed Nadolig. Ar ddiwedd y cyflwyniad rhoddwyd cyfle iddynt weithio ar dasg i drafod a disgrifio’r lluniau o wahanol goed Nadolig gan benderfynu pa un oedd y ffefryn.
Rhoddwyd tasg iddynt fel grŵp i gynllunio coeden Nadolig gyda’r nod o ddefnyddio deunyddiau wedi eu hail-gylchu. Pwrpas y dasg oedd datblygu eu sgiliau cynllunio a rhoi ffocws i waith llafar y disgyblion. Rhoddwyd taflen waith i’w harwain drwy’r broses o drafod, rhestru syniadau, penderfynu a chynllunio. Rhoddwyd pwyslais amlwg i drafod y broses hon.
Wrth i grwpiau greu ac arddangos eu coed, rhoddwyd y cyfle i unigolion a pharau i lunio cerddi am y Nadolig yn son am y goeden neu eu profiadau nhw adeg y Nadolig i’w hongian ar y goeden. Bu grwpiau’n asesu gwaith cynllunio a gwneud ei gilydd yn ogystal â dewis eu hoff gerddi.
Effaith a Chanlyniad
- Roedd cyfle da yn y weithgaredd yma i greu tasgau thematig ar draws nifer o bynciau’r Cwricwlwm.
- Roedd yn thema oedd yn perthyn i fywyd plentyn a phawb yn gallu cyfrannu eu profiadau personol.
- Wrth ddisgrifio coed Nadolig, roedd cyfle da i ddatblygu geirfa’r disgyblion. Wrth drafod a chynllunio coed roeddynt yn awyddus i ddefnyddio’r eirfa a gyflwynwyd iddynt.
- Mae cyfle da yma i blant i drafod fel parau a grwpiau gan ddefnyddio iaith mynegi barn a sgiliau asesu yn ogystal ag iaith fwy disgrifiadol mewn cerddi. Mewn cyd-destun maen nhw’n barod iawn i wrando ar ei gilydd, gofyn cwestiynau a beirniadu gwaith ei gilydd yn adeiladol.
- Mae digon o gyfle i ddatblygu sgiliau meddwl a sgiliau TGCh ym mhob gweithgaredd.
- Roedd y disgyblion yn gallu gweithio yn eu hamser eu hunain gydag ychydig o fewnbwn gan yr athrawes. Roedd y disgyblion yn medru arddangos eu gwaith yn y dosbarth gan fod y gweithgareddau’n perthyn yn glos i’w gilydd.
- Mae’r gweithgareddau’n benagored ac yn addas ar gyfer grwpiau cymysg eu gallu. Mae cyfle fan hyn i ddisgyblion I arwain y dysgu ac i ddysgu gan ei gilydd.
Adborth gan y Dysgwr
Rydw i wedi dysgu llawer wrth fynd ati i gynllunio coeden ac ysgrifennu cerddi. Mae pawb yn ysgol nawr yn gallu eu gweld nhw. Rydw i’n falch o hyn.’
‘Rydw i ar y Cyngor Eco yn yr ysgol felly fe ddefnyddion ni llawer o ddefnyddiau oedd plant yr ysgol wedi casglu i’w ail-gylchu. Mae’r gwiath hyn nawr yn y prosiect Eco!’
Adnoddau Eraill
Taflenni gwaith, y wê, hysbysebion am goed Nadolig o bapurau lleol, defnyddiau wedi eu hail-gylchu.’
Gwersi a Ddysgwyd
Mae angen i fi greu tasgau thematig fel hyn yn fwy cyson gan fod sawl pwnc yn rhan o’r dysgu. Disgyblion yn ymateb yn frwdfrydig i dasgau agored a phawb yn llwyddo. Angen rhoi’r cyfrifoldeb hyn iddynt yn fwy cyson.