
Taith ym Mecsico
Ffocysau Pellach: Dysgu wedi’i Bersonoli, Asesiad Cyfoedion, Dysgu Estynedig, Cwricwlwm Cymreig ,
Sut y defnyddiwyd yr adnodd?
Mae’r gweithgaredd yma yn cyflwyno profiad bachgen o Fecsico adeg y Nadolig sy’n ymddangos yn rhifyn Rhagfyr 2009 y cylchgrawn Clician (www.clician.org).
Un ffordd o ddathlu’r Nadolig ym Mecsico yw’r Las Posadas. Mae’r bachgen yn sôn am yr hanes ar ffurf e-bost i blentyn yng Nghymru.
Mae’r dosbarth yn cael eu cyflyru i feddwl wahanol ffyrdd ar draws y byd o ddathlu’r Nadolig ac yn creu map meddwl ohono. Mae’r adnodd rhyngweithiol yn cael ei ddefnyddio gyda grŵp ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol ond mae parau mwy annibynnol o fewn y dosbarth yn defnyddio’r adnodd ar y cyfrifiaduron dosbarth er mwyn gwneud y darlleniad cyntaf.
Wrth ei ddarllen a’i ail-ddarllen mae gofyn i’r greu parau annibynnol grynhoi’r dathliad ar ffurf llifsiart. Roedd grŵp ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol yn gorliwio’r testun o dan arweiniad yr athro gan drafod geirfa a chynnwys.
Roedd grwpiau’n penderfynu ar ddathliad Nadolig yn ein gwlad ni. Roeddent yn penderfynu ar y dull o’i gyflwyno’n gwbl annibynnol. Roedd grwpiau eraill o fewn y dosbarth yn asesu eu gwaith.
Effaith a Chanlyniad
Mae’n braf i ddisgyblion yn CA 2 i ddysgu am wledydd eraill ar draws y byd. Roedd y testun o ansawdd da ac yn rhwydd i’w ddarllen ac roedden nhw’n gallu uniaethu a phrofiadau plentyn o oed tebyg. Roedd yn cynnig cyfleoedd i ddisgyblion i ddarllen, dehongli, cynllunio ac ysgrifennu’n annibynnol. Daeth rhai o’r disgyblion a gwybodaeth am aelodau o’u teulu oedd yn byw dramor ac aethant ati i ddanfon yr e-byst atyn nhw. Agorodd hwn ddrysau hefyd i wahanol ddulliau o gyfathrebu gan drafod eu manteision ac anfanteision. Cafwyd llawer o drafod buddiol am gynnwys a hyd e-bost a bod lle weithiau i e-bost fod yn fyr a phenodol iawn yn hytrach na bod mor ddisgrifiadol â’r enghraifft hwn. Roedd y disgyblion yn gweld pwrpas real i’r dasg gan eu bod yn e-bostio ffrindiau beth bynnag. Mae cael model parod wedi codi safonau wrth gael y disgyblion i sylwi ar nodweddion da a dyblygu hyn yn eu gwaith eu hunain. Gan eu bod yn danfon e-byst i bobl go iawn neu’n danfon a derbyn wrth ffrindiau roedden nhw’n llawer mwy parod i wirio a gwella’u gwaith.
Roedd y pwrpas, y nodweddion a’r broses gynllunio a gwirio yn glir iddynt.
Adborth gan y Dysgwr
‘Roedd hwn yn ffordd neis o ddysgu am Nadolig mewn gwlad arall.’
‘Dwi’n enjoio danfon e-bost i’m ffrindiau. Roedd e’n rhywbeth ro ni’n gyfarwydd â’n barod’
Adnoddau Eraill
Y we, taflenni gwaith
Gwersi a Ddysgwyd
Mae angen i mi dreulio fwy o amser yn gofyn i’r disgyblion werthuso gwaith ei gilydd. Gallai hyn fod yn wers arall i ganolbwyntio ar werthuso’n unig. Mae angen defnyddio mwy o gyfleoedd i blant gyfathrebu trwy e-bost gan ei fod yn gyflym ac mae disgyblion yn glir ynglŷn â’r gynulleidfa.