
Chwaraeon a Hamdden (Gogledd)
Ffocysau Pellach: Asesiad Cyfoedion, Cyflawniad Bechgyn, DMaAGD, Sgiliau Llythrennedd, Cwricwlwm Cymreig ,
Sut y defnyddiwyd yr adnodd?
Gwers gychwynnol ochr yn ochr ag adnodd ‘Pa Glwb?’ o’r gyfres Nici a Cris/gwasanaeth Athrawon Bro yng ngogledd Cymru
Stori yw Pa glwb? sy’n rhoi lle amlwg i’r iaith sydd ei hangen i fynd o gwmpas Canolfan Hamdden yng Nghymru. Ceir nifer o daflenni gwaith a gweithgareddau sy’n atgyfnerthu iaith y stori.
Dosbarth gallu cymysg Blwyddyn 6 oedd y dosbarth, gyda phob disgybl yn dod o gefndir di-Gymraeg.
- Bu’r athro’n trafod dysgu blaenorol y disgyblion a gofyn iddynt a oeddent yn cofio storïau eraill Nici a Cris. Yn gyntaf, fe agorodd y PowerPoint ‘Pa Glwb?’ a darllen y ddwy dudalen gyntaf. Cyn symud yn ei flaen, fe ofynnodd a oedd y disgyblion yn deall y testun. Roedd bawd i fyny yn datgelu diffyg hyder o ran nifer o ddisgyblion. Agorodd Gweithgaredd 1 gan ofyn beth oedd pob delwedd yn ei chynrychioli ac a allai’r disgyblion gofio unrhyw un o’r geiriau Cymraeg oedd yn gysylltiedig â’r chwaraeon. Mewn parau (partneriaid meddwl) fe ysgrifennodd y disgyblion unrhyw eiriau Cymraeg roeddent yn gallu eu cofio a chafodd y rhai nad oeddent yn gallu eu cofio yn y Gymraeg, eu hysgrifennu yn Saesneg.
Yna defnyddiodd yr athro'r eirfa gwympo er mwyn i’r disgyblion fedru ei defnyddio i adnabod y geiriau nad oeddent yn eu gwybod neu yn eu cofio.
“Ydych chi’n deall...?”
“Allwch chi gofio beth yw ystyr (amrywiaeth o eiriau a brawddegau Cymraeg)?
“Ydych chi wedi gweld y geiriau hyn o’r blaen y tu allan i’r ysgol?”
- Yna defnyddiodd y dosbarth gyfrifiaduron personol mewn parau i edrych ar ran 2 yr adnodd. Eglurodd yr athro bod yn rhaid iddynt archwilio’r Ganolfan Hamdden a defnyddiodd ffyn lolipop i gwestiynu’r disgyblion mewn parau wedi iddynt archwilio’r adnodd.
- Yn adran 3, arweiniodd yr athro'r disgyblion ac adolygu’r geiriau o bob rhan o’r Ganolfan Chwaraeon. Hefyd defnyddiodd yr eicon sain i helpu’r disgyblion gyda’u hynganiad. Wedi hynny fe ddefnyddion nhw ffonau pen i adolygu’r geiriau. Pan oedd y disgyblion yn cael anhawster gyda’r ynganiad, gallent ddefnyddio’r eicon i ailadrodd. Roedd hyn yn arbennig o ddefnyddiol i’r disgyblion oedd yn newydd i’r iaith yn y dosbarth.
“Allwch chi ddweud wrthyf beth yw ystyr hwn?” - Yn y gweithgaredd llusgo a gollwng yn adran 4, roedd y disgyblion yn eithaf hyderus wrth fynd i’r afael â’r gwaith. Yn achlysurol, fe ddefnyddion nhw’r ‘Geirfa’ i’w helpu, ond fe gofiodd y rhan fwyaf yr eirfa o weithgareddau blaenorol. Roedd hyn yn rhoi cyfle i’r disgyblion ymarfer eu hynganu gan fod yr athro wedi sefydlu rheol na allai’r geiriau gael eu dweud yn Saesneg.
- Fel sesiwn gloi i’r gweithgaredd, defnyddiodd yr athro’r cwis yn adran 5 gyda’r dosbarth cyfan. Chwaraewyd pob sain a defnyddiwyd ffyn lolipop i ddewis y disgyblion i ateb pob un o’r cwestiynau. Os byddai’n anghywir neu os byddai’n ynganu’n anghywir, gallai’r disgybl ofyn am gymorth partner meddwl.
- Yna, fe arweiniodd yr athro'r disgyblion drwy’r llyfr 'Pa Glwb?’ ar PowerPoint (gyda sain). Gofynnwyd i’r disgyblion ysgrifennu’r geiriau roeddent yn eu hadnabod o adnodd GCaD mewn parau.
“Allwch chi ddefnyddio mwy nag un o’r chwaraeon mewn brawddeg neu gwestiwn?”
- Gofynnodd y disgyblion ac ateb y brawddegau a’r cwestiynau o’r gweithgaredd ‘Pa Glwb?’
e.e. “I ba glwb wyt ti eisiau mynd?” “Dw i eisiau mynd i’r clwb...”
Fel rhan o’r sesiwn gloi, rhoddodd y disgyblion fawd i fyny llawer mwy pendant i’r cwestiwn a oeddent yn deall yr iaith yn y stori ai peidio.
Effaith a Chanlyniad
Gwellodd ynganiad disgyblion o’r geiriau oedd eu hangen ar gyfer y gweithgareddau ‘ Pa Glwb?’ yn fawr iawn drwy’r testun o ganlyniad i ddefnyddio adnodd GCaD.
Mae’r gymysgedd o weithgareddau ymarferol a gweithgareddau dan arweiniad athro yn rhoi llawer o gyfleoedd ar gyfer Asesu ar gyfer Dysgu.
Mae’r adnodd yn berthnasol i lawer o’r gweithgareddau mae’r disgyblion eu hunain yn ymgymryd â nhw.
Adborth gan y Dysgwr
Fe wnaeth y disgyblion fwynhau defnyddio ac archwilio rhannau o’r adnodd eu hunain. Yn benodol fe wnaethant fwynhau’r gweithgaredd llusgo a gollwng yn Adran 4 Gweithgaredd 1.
Mae’r adnodd yn lliwgar ac yn ddeniadol i’r disgyblion. Roeddent yn awyddus i’w ddefnyddio eu hunain.
Adnoddau Eraill
Bwrdd gwyn rhyngweithiol, byrddau gwyn bach, pennau, cyfrifiaduron personol, cyfres Nici a Cris, Cynllun Gwaith Athrawon Bro.
Gwersi a Ddysgwyd
Gellir ychwanegu at a gwella cynllun yr ysgol/sir drwy ddefnyddio’r adnodd GCaD hwn.
Mae disgyblion yn ymaddasu’n dda i adnoddau newydd a gallant ehangu eu gwybodaeth yn fwy o ddefnyddio adnoddau ychwanegol.